Scarlets 21–19 Connacht

Cipiodd cic gosb hwyr Steve Shingler fuddugoliaeth i’r Scarlets wrth i Connacht ymweld â Llanelli yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Roedd hi’n gêm agos ar Barc y Scarlets ond er i Connacht gael y gorau o’r hanner cyntaf fe frwydrodd Bois y Sosban yn ôl yn yr ail gyfnod gyda cheisiau Steff Evans a Michael Collins, cyn i’r gic gosb hwyr ennill y gêm iddynt.

Hanner Cyntaf

Naw munud yn unig oedd wedi mynd pan gafodd Bundee Aki gerdyn melyn am dacl anghyfreithlon ar Regan King, ond methodd y Scarlets a manteisio tra’r oedd canolwr Connacht yn y gell gosb.

Aeth King ei hun i’r gell gosb wedi hynny ar ôl lladd y bêl yng nghysgod y pyst a manteisiodd Connacht yn syth gyda chic gosb o droed Craig Ronaldson.

Daeth cais cyntaf y gêm yn fuan wedyn pan wrthymosododd yr asgellwr, Matt Healy, yr holl ffordd o’i linell 22 medr ei hun.

Rhoddodd trosiad Ronaldson yr ymwelwyr ddeg pwynt ar y blaen ond rhoddodd cic gosb hwyr Aled Thomas y Scarlets o fewn cyrraedd ar yr egwyl.

Ail Hanner

Ychwanegodd Thomas dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail gyfnod i gau’r bwlch i bedwar cyn i gais eu rhoi ar y blaen am y tro cyntaf, Steff Evans yn croesi yn y gornel yn dilyn dwylo da gan Fois y Sosban yn ardal 22 medr y Gwyddelod.

Rhoddodd trosiad Thomas y tîm cartref dri phwynt ar y blaen ond unionodd Ronaldson bethau wrth i’r Scarlets ildio cic gosb yn syth o’r ail ddechrau.

Aeth y Cymry nôl ar y blaen ar yr awr pan groesodd Michael Collins yn dilyn bylchiad gwych King ond yn ôl y daeth Connacht eto gyda chic gosb Jack Carty ddeuddeg munud o’r diwedd yn cau’r bwlch i ddau bwynt.

Rhoddodd ail gic gosb Carty’r Gwyddelod ar y blaen gyda munud a hanner o’r wyth deg yn weddill ond roedd drama hwyr i ddilyn.

Troseddodd Ronan Loughney yn ardal y dacl, ac ar ôl methu cic i ennill y gêm yn erbyn y Gweilch bythefnos yn ôl, wnaeth Shingler ddim camgymeriad y tro hwn, 21-19 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets yn ôl i frig y Pro12 ac yn cadw Connacht yn bedwerydd. Mae’r ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto yng Ngalway mewn tair wythnos.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 46’, Michael Collins 61’

Trosiad: Aled Thomas 47’

Ciciau Cosb: Aled Thomas 37’, 44’, Steve shingler 80’

Cerdyn Melyn: Regan King 23’

.

Connacht

Cais: Matt Healey 26’

Trosiad: Craig Ronaldson 28’

Ciciau Cosb: Craig Ronaldson 24’, 49’, Jack Carty 68’, 78’

Cardiau Melyn: Bundee Aki 9’, Ronan Loughney 79’