Fe fydd bachwr y Scarlets Emyr Phillips yn methu gweddill y tymor ar ôl gorfod cael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Cafodd y chwaraewr 28 oed lawdriniaeth yn gynharach yr wythnos hon ar ôl anafu cymalau’r anterior cruciate yn ystod gêm y Scarlets yn erbyn y Gleision ar Ddydd Calan.

Mae’n ergyd fawr i’r rhanbarth gan fod Phillips wedi dechrau 14 o 15 gêm y tîm hyd yn hyn y tymor yma.

Er na chwaraeodd rhyw lawer yn ystod tymor 2014/15 oherwydd anafiadau i’w frest a’i ysgwydd, mae wedi cynrychioli’r Scarlets 126 o weithiau yn ogystal ag ennill tri chap dros Gymru.

“Fe fydd e’n dechrau ar ei wellhad yn syth ac rydyn ni’n disgwyl ei weld yn ôl yn ffit cyn dechrau’r tymor nesaf,” meddai pennaeth meddygol y Scarlets, Andrew Walker.