Gleision 29–27 Scarlets

Y Gleision oedd yn fuddugol mewn gêm gyffrous yn erbyn y Scarlets ar Barc yr Arfau nos Wener.

Sicrhaodd cais Alex Cuthbert y fuddugoliaeth i’r tîm cartref bedwar munud yn unig o ddiwedd y naw deg.

Dechreuodd y Scarlets ar dân gan groesi am ddau gais yn y deuddeg munud agoriadol.

Dwynodd Ken Owens y meddiant o lein bump amddiffynnol y Gleision i dirio’r cyntaf cyn i DTH van der Merwe groesi am yr ail wedi rhyng-gipiad ar y llinell hanner.

Ymatebodd y Gleision gyda chais i Cory Allen yn y gornel dde ond roedd gan yr ymwelwyr o’r gorllewin fantais iach unwaith eto erbyn hanner amser yn dilyn dwy gic gosb o droed Thomas, 10-20 y sgôr ar yr egwyl.

Roedd y tîm cartref yn ôl yn y gêm wedi deg munud o’r ail hanner diolch i gais Dan Fish wedi gwaith da gan Tom James.

Bu rhaid i’r Scarlets chwarae gyda thri dyn ar ddeg am gyfnod wedi hynny yn dilyn cardiau melyn i Steffan Evans ac Emyr Phillips.

Manteisiodd y Gleision yn llawn wrth i Kristian Dacey hyrddio drosodd am drydydd cais ei dîm. Rhoddodd trosiad Patchell y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf ers yr ail funud.

Yn ôl y daeth Bois y Sosban serch hynny gyda chais Gareth Davies yn eu rhoi yn ôl ar y blaen ddeuddeg munud o’r diwedd.

Ond y Gleision a gafodd y gair olaf wrth i Cuthbert wthio’i hun drosodd o dan y pyst bedwar munud o’r diwedd i roi trosiad syml i Patchell.

29-27 y sgôr terfynol felly a’r Gleision yn codi dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12. Mae pwynt bonws y Scarlets ar y llaw arall yn ddigon i’w cadw hwy ar frig y gynghrair.

.

Gleision

Ceisiau: Corey Allen 15’, Dan Fish 49’, kristian Dacey 57’, Alex Cuthbert 76’

Trosiadau: Rhys Patchell 16’, 58’, 77’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 2’

.

Scarlets

Ceisiau: Ken Owens 6’, DTH van der Merwe 11’, Gareth Davies 67’

Trosiadau: Aled Thomas 7’, 12’, 68’

Ciciau Cosb: Aled Thomas 17’, 27’

Cardiau Melyn: Lewis Rawlins 38’, Steffan Evans 55’, Emyr Phillips 56’