Fe fydd Rhys Patchell yn dechrau fel maswr wrth i’r Gleision groesawu Montpellier i Barc yr Arfau yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Pum newid sydd wedi cael ei wneud i dîm y Gleision o’r pymtheg ddechreuodd yn y fuddugoliaeth dros Connacht y penwythnos diwethaf.

Bydd y blaenasgellwr Josh Navidi a’r cefnwr Dan Fish yn dychwelyd i’r tîm, ac mae’r prif hyfforddwr Danny Wilson hefyd wedi dewis Sam Hobbs, Kristian Dacey a Taufa’ao Filise yn y rheng flaen.

Warburton allan

Lloyd Williams fydd y capten yn absenoldeb Sam Warburton, sydd ar y rhestr anafiadau ynghyd â Cory Allen a Gareth Anscombe, tra bod Matthew Rees dal wedi’i wahardd.

“Mae gan Montpellier garfan gref tu hwnt sydd yn llawn chwaraewyr rhyngwladol ac enwau adnabyddus,” meddai Danny Wilson wrth edrych ymlaen at y gêm.

“Maen nhw eisoes wedi sicrhau canlyniadau gwych yn y Top 14 y tymor yma ac rydyn ni’n gwybod y bydd unrhyw dîm maen nhw’n dod i Gaerdydd yn rhoi prawf anodd i ni.”

Tîm y Gleision: Sam Hobbs, Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Jarrad Hoeata, James Down, Macauley Cook, Josh Navidi, Josh Turnbull; Lloyd Williams (capt), Rhys Patchell, Tom James, Gavin Evans, Rey Lee-Lo, Alex Cuthbert, Dan Fish

Eilyddion: Ethan Lewis, Gethin Jenkins, Craig Mitchell, Scott Andrews, Cam Dolan, Tavis Knoyle, Jarrod Evans, Garyn Smith