Scott Williams (Scarlets)
Mae’r Scarlets wedi cadarnhau bod Scott Williams wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r rhanbarth, er gwaethaf diddordeb gan y Gweilch.

Roedd disgwyl y byddai’r canolwr yn arwyddo cytundeb deuol rhwng y Scarlets ac Undeb Rygbi Cymru a fyddai’n golygu ei fod yn aros gyda’r tîm o Lanelli.

Ond ar ôl i’r Gweilch wneud cynnig gwell fe dynnodd yr Undeb eu cynnig hwythau yn ôl, gan adael i’r ddau ranbarth gystadlu ar wahân am ei lofnod.

Y Scarlets sydd wedi ennill y dydd, ac fe fyddan nhw nawr yn gallu paru Scott Williams gyda chanolwr arall Cymru, Jonathan Davies, y tymor nesaf, wrth iddo yntau ddychwelyd o Ffrainc.

Canol cae cryf

Mae Scott Williams wedi bod gyda’r Scarlets ers ei fod yn 15 oed a deng mlynedd yn ddiweddarach mae bellach yn is-gapten ar y rhanbarth.

Ar hyn o bryd mae’n gwella o anaf i’w ben-glin a gafodd wrth chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni.

Fe gyfaddefodd prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac bod arwyddo Scott Williams nes 2018 yn ogystal â denu Jonathan Davies nôl o Clermont i chwarae yng nghanol cae yn tynnu dŵr i ddannedd.

Ac fe ddywedodd Scott Williams mai aros gyda’r Scarlets fyddai orau ar gyfer ei obeithion â Chymru dros y blynyddoedd nesaf.

“Dw i wastad wedi bod yn gefnogwr mawr o’r clwb ac mae’n gyffrous gwybod y byddai’n gallu parhau i ddatblygu fy ngêm i yma gyda’r rhanbarth,” meddai’r canolwr.