Scarlets 20–12 Zebre
Ennill fu hanes y Scarlets wrth i Zebre ymweld â Llanelli yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.
Rhuthrodd Bois y Sosban at ddau bwynt ar bymtheg o fantais yn chwarter cyntaf y gêm diolch i geisiau Hadleigh Parkes ac Aled Davies a chicio cywir Aled Thomas.
Croesodd Parkes wedi saith munud a Davies bedwar munud yn ddiweddarach gyda Thomas yn llwyddo gyda’r ddau drosiad a chic gosb hefyd.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond yn ôl y daeth yr Eidalwyr wedi’r egwyl gyda dau gais i’r wythwr, Dries van Schalkwyk a throsiad o droed Carlo Canna.
Rhoddodd hynny’r ymwelwyr o fewn sgôr gyda chwarter y gêm ar ôl ond y Cymry aeth â hi yn y diwedd wrth i gic gosb hwyr Steve Shingler roi golau dydd rhwng y ddau dîm, 20-12 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn ail yn nhabl y Pro12.
.
Scarlets
Ceisiau: Hadleigh Parkes 7’, Aled Davies 11’
Trosiadau: Aled Thomas 8’, 12’
Ciciau Cosb: Aled Thomas 21’, Steve Shingler 76’
Cerdyn Melyn: Maselino Paulino 58’
.
Zebre
Ceisiau: Dries van Schalkwyk 49’, 59’
Trosiad: Carlo Canna 60’