Mae Rhodri Jones wedi chwarae ei hanner awr gyntaf o rygbi cystadleuol ers 10 mis.

Chwaraeodd y prop rhyngwladol yn yr ornest rhwng Llanelli a Chasnewydd yn Uwch Gynghrair Cymru.

Fe gollodd Llanelli’r gêm 30-24.

Datgymalodd Rhodri Jones ei ysgwydd wrth chwarae i’r Scarlets yn erbyn y Gweilch ym mis Ionawr a bu’n rhaid iddo fethu Cwpan y Byd.

Ond fe allai ychwanegu at ei 13 cap dros ei wlad ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf os yw’n parhau yn holliach.