Mae mewnwr y Scarlets Aled Davies wedi ymestyn ei gytundeb nes 2018 wrth i’r rhanbarth geisio sicrhau dyfodol mwy o aelodau’r garfan.

Ar ôl dechrau ei yrfa broffesiynol â’i dîm cartref yn 2012 mae’r chwaraewr 23 oed wedi cynrychioli’r Scarlets 72 o weithiau.

Mae’r rhanbarth eisoes wedi ymestyn cytundebau chwaraewyr fel Liam Williams, Jake Ball, Samson Lee, Aaron Shingler, John Barclay a Rob Evans ar gyfer y tymor nesaf.

Cystadlu am le

Dyw Aled Davies ddim wedi ennill cap rhyngwladol dros Gymru eto ond roedd yn aelod cyson o dîm y Scarlets y tymor diwethaf gan gystadlu â Gareth Davies a Rhodri Williams am y crys rhif naw.

“Fi’n falch iawn i ymestyn fy nghytundeb gyda’r Scarlets. Dw i wedi bod yn rhan o’r rhanbarth ers mod i’n 15 a chyn hynny roeddwn i’n gefnogwr yn gwylio o’r eisteddle,” meddai Aled Davies.

“Hon yw fy rhanbarth gartref i ac mae’n fraint enfawr gwisgo’r crys sydd wedi cael ei wisgo gan gymaint o chwaraewyr gwych dros y blynyddoedd.”