Gweilch 25–13 Caerwysg

Cafodd y Gweilch ddechrau da i’w hymgyrch yng ngrŵp 2 Cwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerwysg (Exeter) ar y Liberty nos Sul.

Er nad oedd Dan Biggar ar ei orau, llwyddodd maswr Cymru a’r Gweilch i gicio ugain pwynt a chroesodd Josh Matavesi am gais hwyr i’r Cymry.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gweilch yn addawol ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Biggar wedi saith munud.

Dyblodd y maswr y fantais wedi deunaw munud gydag ail gic lwyddiannus.

Cyfle’r ymwelwyr oedd hi i greu argraff ar y sgôr fwrdd wedi hynny wrth i gic gosb Gareth Steenson gau’r bwlch i dri phwynt.

Bu bron i Luke Cowan-Dickie groesi am gais cyntaf y gêm wedi hynny, ond llwyddodd bachwr Caerwysg i ollwng y bêl ar yr eiliad dyngedfennol.

Ni fu rhaid i’r Saeson aros yn hir serch hynny cyn i’r asgellwr, James Short, groesi am y cais agoriadol yn dilyn ffugiad da’r mewnwr, Will Chudley.

Rhoddodd trosiad Steenson Caerwysg bedwar pwynt ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser wrth i Biggar fethu gyda dwy ymgais hwyr at y pyst.

Ail Hanner

Gwnaeth Biggar yn iawn am ei ddau fethiant ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth gau’r bwlch i un pwynt wrth drosi cic gosb yn gynnar yn yr ail.

Methodd Biggar eto wedi hynny, ond roedd troseddu cyson Caerwysg yn rhoi digon o gyfleoedd i’r maswr, ac roedd y Gweilch ar y blaen wedi iddo lwyddo gyda’i gynnig nesaf.

Ciciodd Steenson yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen cyn i gôl adlam Biggar adfer mantais y Gweilch toc wedi’r awr.

Rhoddodd pumed cic gosb Biggar fymryn o olau dydd rhwng y ddau dîm ddeuddeg munud o’r diwedd, ond un sgôr oedd ynddi o hyd, 18-13 y sgôr.

Newidiodd hynny dri munud yn ddiweddarach pan ryng-gipiodd Josh Matavesi bas Steenson ar y llinell hanner a chroesi am gais cyntaf y Gweilch. Rhoddodd trosiad Biggar y gêm o afael Caerwysg, 25-13 y sgôr terfynol.

.

Gweilch

Cais: Josh Matavesi 71’

Trosiad: Dan Biggar 72’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 7’, 18’, 42’, 48’, 68’

Gôl Adlam: Dan Biggar 61’

.

Caerwysg

Cais: James Short 31’

Trosiad: Gareth Steenson 32’

Ciciau Cosb: Gareth Steenson 24’, 58’