Northampton 15–11 Scarlets

Colli oedd hanes y Scarlets yn eu gêm gyntaf yng ngrŵp 3 Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn.

Pedwar pwynt oedd ynddi wrth i Fois y Sosban gael eu curo gan Northampton yn Franklin’s Gardens.

Hanner Cyntaf

Chwe munud yn unig oedd ar y cloc pan groesodd Ken Pisi am gais cyntaf y gêm i Northampton, yr asgellwr yn sgorio wedi gwaith da gan JJ Hanrahan. Trosodd Hanrahan y cais i roi saith pwynt o fantais i’w dîm.

Caeodd cic gosb Steve Shingler y bwlch i bedwar pwynt wedi ychydig llai na chwarter awr.

Croesodd Luther Burrell y gwyngalch wedi hynny ond chafodd cais canolwr Northampton ddim ei ganiatáu oherwydd sathriad gan George North ar Michael Tagicakibau.

Cafodd y Cymro gerdyn melyn am y drosedd honno, ac er na ychwanegodd y Scarlets at y sgôr tra’r oedd y gwrthwynebwyr i lawr i bedwar dyn ar ddeg, roeddynt o fewn pwynt ar yr egwyl diolch i ail gic gob Shingler.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner yn dda ac roeddynt ar y blaen am y tro cyntaf wedi deg munud diolch i fylchiad nodweddiadol a chais Gareth Davies.

Tarodd Northampton nôl yn syth gyda chais i’r prop, Alex Walker, o sgarmes symudol, Northampton bwynt ar y blaen eto gydag ugain munud i fynd.

Chwaraeodd y tîm cartref ddeg o’r rheiny gyda phedwar dyn ar ddegyn yn dilyn cerdyn melyn arall, James Gibson y troseddwr y tro hwn yn ardal y dacl.

Methodd y Scarlets serch hynny â manteisio ar hynny, ac yn wir, Northampton a gafodd y pwyntiau nesaf, cic gosb o droed Hanrahan.

Rhoddodd hynny ei dîm bedwar pwynt ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Scarlets orfod bodloni ar bwynt bonws yn unig.

.

Northampton

Ceisiau: Ken Pisi 6’, Alex Walker 54’

Trosiad: JJ Hanrahan 7’

Cic Gosb: JJ Hanrahan 68’

Cardiau Melyn: George North 19’, Jamie Gibson 63’

.

Scarlets

Cais: Gareth Davies 50’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 14’, 37’