Calvisano 9–50 Gleision

Cafodd y Gleision ddechrau da i’w hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth swmpus dros Calvisano yn y Centro Sportivo San Michele brynhawn Sadwrn.

Croesodd y Cymry am saith i gyd mewn buddugoliaeth gyfforddus, er y bu rhaid aros tan yr ail hanner am bump ohonynt.

Er i Lloyd Williams a Tom James groesi am gais yr un yn y deugain munud agoriadol, roedd yr Eidalwyr yn y gêm o hyd diolch i ddwy gic gosb Filippo Buscema, 6-15 y sgôr ar hanner amser.

Aeth y Gleision a’r gêm o afael Calvisano yn gynnar yn yr ail gyfnod gan sicrhau’r pwynt bonws yn y deg munud cyntaf diolch i geisiau Ellis Jenkins a Dan Fish.

Cwblhaodd Blaine Scully, Jarrod Evans a chais cosb y sgorio wrth i’r rhanbarth o Gymru gyrraedd hanner can pwynt mewn buddugoliaeth swmpus yng ngrŵp 3, grŵp sy’n cynnwys Harlequins a Montpellier hefyd.

.

Calvisano

Ciciau Cosb: Filippo Buscema 6’, 39’, 53’

.

Gleision

Ceisiau: Lloyd Williams 16’, Tom James 24’, Jenkins 44’, Dan Fish 48’, Blaine Scully 53’, Jarrod Evans 72’, Cais Cosb 79’

Trosiadau: Rhys Patchell 25’, 45’, 49’, 53’, Jarrod Evans 73’, 79’

Cic Gosb: Rhys Patchell 40’