Stuart Lancaster
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Lloegr Stuart Lancaster wedi gadael ei swydd, ychydig dros fis ar ôl perfformiad gwaethaf erioed y tîm mewn Cwpan y Byd.

Fe gollodd y Saeson yn erbyn Cymru ac Awstralia gan olygu nad oedden nhw wedi dianc o’r grŵp am y tro cyntaf ers i’r gystadleuaeth ddechrau yn 1987.

Digwyddodd hynny er mai Lloegr eu hunain oedd yn cynnal y gystadleuaeth, gyda Lancaster yn cael ei benodi yn 2012 â llygad ar baratoi carfan gref fyddai’n gobeithio ennill y twrnament.

Ers iddyn nhw adael y twrnament yn gynnar mae Undeb Rygbi Lloegr wedi bod yn ystyried perfformiadau’r tîm a’r hyfforddwyr, cyn dod i benderfyniad heddiw bod angen dechrau newydd arnynt.

Llygadu Gatland?

Dywedodd yr undeb mewn datganiad eu bod wedi dod i gytundeb â Lancaster mai gadael fyddai’r peth gorau.

Ychwanegodd yr hyfforddwr ei fod yn “siomedig iawn” gyda’r ffordd yr aeth pethau yn ystod y gystadleuaeth a’i fod yn cymryd y “cyfrifoldeb” am y methiant.

Mae’n golygu y bydd Lloegr nawr yn chwilio am hyfforddwr a staff newydd, gyda sôn wedi bod eisoes eu bod yn llygadu Warren Gatland a Shaun Edwards o dîm Cymru, neu Joe Schmidt o Iwerddon.

Mae cytundeb Edwards ag Undeb Rygbi Cymru’n dod i ben yn fuan, a dyw e heb arwyddo estyniad eto, ond mae Gatland wedi mynnu ei fod eisiau aros gyda Chymru nes Cwpan y Byd 2019 yn Siapan.