Jonathan Davies
Mae disgwyl i’r Scarlets gyhoeddi’n fuan eu bod wedi arwyddo cytundeb i ddod â Jonathan Davies yn ôl o Clermont i Gymru ar gyfer y tymor nesaf.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg mae’r rhanbarth o Lanelli yn hyderus o gipio Davies, sydd yn cael ei adnabod fel ‘Jon Fox’, ar gytundeb canolog rhyngddyn nhw ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae gan y canolwr 48 cap dros Gymru, ond fe fethodd Cwpan y Byd eleni ar ôl anafu ei ben-glin wrth chwarae dros ei glwb yn gynharach yn y flwyddyn.

Dim ond llynedd arwyddodd cyn-gapten y Scarlets dros y clwb o Ffrainc, ac roedd yn rhan o’r tîm a gyrhaeddodd ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop cyn colli i Toulon.

Fe allai’r trosglwyddiad, unwaith y caiff ei gadarnhau, agor y drws i ragor o sêr rygbi Cymru ddychwelyd o’u clybiau tramor.

Mae Undeb Rygbi Cymru mewn safle ariannol iach yn dilyn Cwpan y Byd, gan gynnwys yr arian a wnaethpwyd o ddefnyddio Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gystadleuaeth, a chytundebau newydd â noddwyr.

Mae rhanbarthau Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu bod wedi cytuno i godi eu huchafswm cyflog o gyfanswm o £3.5m y flwyddyn i £4.5m.

Fe allai hynny fod yn ddigon i helpu denu chwaraewyr fel George North, sydd ar hyn o bryd yn Northampton, a chefnwr Toulon Leigh Halfpenny, yn ôl i Gymru.

Mae 16 o chwaraewyr eisoes wedi arwyddo cytundebau canolog gydag Undeb Rygbi Cymru ers iddyn nhw gael eu cyflwyno llynedd, gan gynnwys pedwar o chwaraewyr y Gweilch yr wythnos diwethaf.