Gleision 30–35 Glasgow

Colli fu hanes y Gleision mewn gêm gyffrous yn y Guinness Pro12 ar Barc yr Arfau brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen ar hanner amser ond yn ôl y daeth y pencampwyr wedi’r egwyl a bu rhaid i’r Gleision fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd.

Er i Finn Russell gicio’r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pum munud, fe ymatebodd y Gleision yn dda gyda thair cic gosb o droed Rhys Patchell yn yr ugain munud cyntaf.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi hynny pan groesodd y clo o Fiji, Leona Nakarawa, i ddod a’r Albanwyr yn ôl o fewn pwynt.

Ymatebodd y Gleision gyda’u cais cyntaf hwythau wrth i Gavin Evans groesi bum munud yn ddiweddarach, ac er i Patchell fethu’r trosiad fe lwyddodd gyda chic gosb yn fuan wedyn i ymestyn y bwlch i naw.

Roedd digon o amser ar ôl i Glasgow sgorio eto cyn yr egwyl. Dyn arall o Fiji oedd y sgoriwr, asgellwr Awstralia y tro hwn, Taqele Naiyaravoro.

Aeth Glasgow ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner diolch i gic gosb Russell ond yn ôl y daeth y Gleision gyda chwe phwynt arall o droed Patchell.

Roedd y Cymry bum pwynt ar y blaen felly gyda chwarter awr yn weddill ond yr ymwelwyr aeth â hi yn y diwedd yn dilyn diweddglo cryf.

Croesodd y blaenwyr, Ryan Grant a Jonny Gray, am gais yr un ac ychwanegodd Russell ddau drosiad ac un gic gosb, 23-32 y sgôr terfynol.

Roedd digon o amser ar ôl i’r Gleision achub pwynt bonws ac fe wnaethant hynny diolch i gais cosb ddau funud o ddiwedd yr wyth deg.

Mae’r canlyniad yn codi Glasgow i’r pumed safle yn nhabl y Pro12 ond mae’r Gleision ar y llaw arall yn llithro i’r unfed safle ar ddeg.

.

Gleision

Ceisiau: Gavin Evans 30’, Cais Cosb 78’

Trosiad: Rhys Patchell 78’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 7’, 12’, 19’, 37’, 58’, 63’

.

Glasgow

Ceisiau: Leona Nakarawa 25’, Taqele Naiyaravoro 38’, Ryan Grant 68’, Jonny Gray 73’

Trosiadau: Finn Russell 39’, 69’, 73’

Ciciau Cosb: Finn Russell 5’, 41’

Cerdyn Melyn: Ryan Wilson 58’, Stuart Hogg 78’