Leinster 19–15 Scarlets

Collodd y Scarlets am y tro cyntaf y tymor hwn wrth deithio i’r RDS i herio Leinster yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Roedd y Cymry ar y blaen ar yr hanner diolch i geisiau Parkes ac Owen, ond yn ôl y daeth Leinster yn yr ail hanner wrth i nifer o’u chwaraewyr rhyngwladol ddychwelyd i’r tîm.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets ar dân a daeth cais o dan y pyst i’r canolwr, Hadleigh Parkes, wedi pedwar munud yn unig, yn dilyn cyfnod da o bwyso.

Rhoddodd trosiad syml Dan Jones yr ymwelwyr saith pwynt ar y blaen, ond bu rhaid iddynt chwarae deg munud gyda phedwar dyn ar ddeg yn fuan wedyn wedi i Jake Ball ddymchwel sgarmes symudol addawol.

Llwyddodd y Scarlets i gyfyngu’r Gwyddelod i un gic gosb o droed Ian Madigan yn y cyfnod hwnnw, ond ychwanegodd maswr Leinster un arall yn fuan wedyn i ddod â’r sgôr o fewn pwynt.

Adferodd y Scarlets y bwlch gydag ail gais y gêm chwarter awr cyn yr egwyl. Bylchodd Gareth Davies wrth fôn ryc, cafodd gefnogaeth dda gan ei gapten, John Barclay, a sgoriodd y canolwr, Gareth Owen, yn y gornel.

Methodd Jones y trosiad ac roedd Leinster yn ôl o fewn tri phwynt yn fuan wedyn diolch i drydedd cic Madigan. Ond Jones a gafodd y gair olaf wrth i’w gic gosb adfer y chwe phwynt o fantais, 9-15 y sgôr ar yr hanner.

Ail Hanner

Roedd Leinster yn well tîm ar ôl troi a rhoddodd cais cynnar Mike Ross a throsiad Madigan y Gwyddelod bwynt ar y blaen wedi pum munud.

Parhau i reoli’r tir a’r meddiant a wnaeth y tîm cartref wedi hynny ond un cic gosb arall gan Madigan ar yr awr oedd yr unig newid yn y sgôr.

Roedd Bois y Sosban dal yn y gêm felly wrth i’r cloc droi’n goch, ond er iddynt guro ar y drws yn y munudau olaf, bu rhaid bodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd.

Nid yw’r pwynt hwnnw’n ddigon i atal y Scarlets rhag llithro oddi ar frig y Pro12, mae buddugoliaeth Connacht gartref yn erbyn Treviso yn eu codi hwy dros Fois y Sosban i frig y tabl.

.

Leinster

Cais: Mike Ross 45’

Trosiad: Ian Madigan 45’

Ciciau Cosb: Ian Madigan 11’, 20’, 29’, 60’

.

Scarlets

Ceisiau: Hadleigh Parkes 4’, Gareth Owen 25’

Trosiad: Dan Jones 5’

Cic Gosb: Dan Jones 34’

Cerdyn Melyn: Jake Ball 8’