Dan Baker a Rory Thornton
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod yna bedwar arall o’u chwaraewyr bellach wedi arwyddo cytundebau deuol gydag Undeb Rygbi Cymru (URC).

Bu i’r blaenasgellwr Dan Baker a’r clo Rory Thornton arwyddo cytundebau tair blynedd, gan ymuno â’r blaenasgellwr James King a’r bachwr Scott Baldwin ar y rhestr.

Mae’n golygu bod y nifer o chwaraewyr sydd ar gytundebau canolog gydag URC bellach wedi cynyddu i 16, gydag wyth o’r rheiny yn dod o’r Gweilch.

Cadw talent yng Nghymru

Capten Cymru Sam Warburton oedd y cyntaf i arwyddo cytundeb canolog gydag URC yn 2014, a hynny ar ôl i’r Undeb a’r rhanbarthau ddod i gytundeb ar ddyfodol y gêm yng Nghymru.

Mae’r cytundebau deuol yn golygu bod yr Undeb yn talu 60% o gyflogau’r chwaraewyr ond bod cyfyngiad ar faint o gemau maen nhw’n cael chwarae bob tymor, a bod rhaid iddynt fod ar gael unrhyw bryd y mae gan Gymru gemau rhyngwladol.

Roedd yn cael ei weld fel ffordd o geisio cadw’r dalent gorau yn chwarae yng Nghymru, yn hytrach na bod chwaraewyr yn gadael i fynd i glybiau yn Lloegr a Ffrainc oedd yn talu’n well.

Mae gan y Gweilch hefyd Rhys Webb, Dan Biggar, Alun Wyn Jones a Dan Lydiate ar gytundebau canolog, tra bod gan y Scarlets Rhodri Jones, Samson Lee, Jake Ball a Scott Williams.

Dim ond dau chwaraewr yr un sydd gan y Gleision (Warburton a Gareth Anscombe) a’r Dreigiau (Hallam Amos a Tyler Morgan).

Potensial

Mae gan Baker eisoes dri chap dros Gymru yn barod, y cyntaf o’r rheiny yn dod yn 2013 ar y daith i Siapan, ac mae’r blaenasgellwr 23 oed wedi sgorio 10 cais mewn 39 gêm i’r Gweilch.

Dim ond 20 oed yw Thornton, yr unig un o’r chwaraewyr ar gytundebau canolog sydd heb ennill cap, ond roedd yn gapten ar Gymru dan-20 yn y Chwe Gwlad a Chwpan Ieuenctid y Byd eleni.

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland fod y ddau chwaraewr yn dangos “potensial sylweddol”.

Ac fe ychwanegodd rheolwr cyffredinol rygbi’r Gweilch Andrew Millward y byddai’r cytundebau canolog yn golygu fod rhanbarthau’n medru cadw’r dalent ifanc mwyaf disglair yn ogystal â sêr mwyaf y tîm cenedlaethol.