Scarlets 25–15 Dreigiau Casnewydd Gwent
Y Scarlets aeth â hi wrth i’r Dreigiau ymweld â Pharc y Scarlets yn y gêm Guinness Pro12 rhwng y ddau ranbarth o Gymru nos Wener.
Sgoriodd James Davies a Phil John ddau gais yr un wrth i Fois y Sosban sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws.
Roedd y tîm cartref ddeuddeg pwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ddau gais da gan y blaenwyr, Davies a John.
Gorffennodd “Cubby” symudiad da i groesi am y cyntaf wedi naw munud cyn i’r prop profiadol, John, ddechrau a gorffen symudiad arbennig ar gyfer yr ail naw munud yn ddiweddarach.
Yn ôl y daeth y Dreigiau wedi hynny gyda Jason Tovey yn sgorio wyth pwynt i’r ymwelwyr cyn yr egwyl. Llwyddodd y maswr gyda chic gosb i ddechrau cyn croesi am gais bedwar munud o ddiwedd yr hanner.
Rhoddodd cic gosb Aled Thomas saith pwynt rhwng y timau ar ddechrau’r ail hanner cyn i Davies a John ill dau groesi am ail gais o fewn saith munud i’w gilydd tua hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel fe gafwyd eiliad hanesyddol pan ddaeth Jacob Cowley i’r cae fel eilydd i chwarae ochr yn ochr â’i dad, Regan King, yn llinell ôl y Scarlets!
Roedd digon o amser ar ôl i Sarel Pretorius sgorio cais cysur i’r Dreigiau ond noson y Scarlets oedd hi wrth i’w chweched buddugoliaeth yn olynol eu cadw ar frig y Pro12.
.
Scarlets
Ceisiau: James Davies 9’, 65’, Phil John 18’, 58’
Trosiad: Aled Thomas 10’
Ciciau Cosb: Aled Thomas 48’
.
Dreigiau
Ceisiau: Jason Tovey 36’, Sarel Pretorius 71’
Trosiad: Jason Tovey 72’
Cic Gosb: Jason Tovey 24’
Cerdyn Melyn: Adam Hughes 57’