Aaron Ramsey a Jamie Roberts, dau o'r siaradwyr Cymraeg ym myd y campau
Iolo Cheung ac Illtud Dafydd sydd yn dewis tîm pêl-droed a rygbi Cymru o siaradwyr Cymraeg

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai cyffrous tu hwnt i ddilynwyr y bêl gron a’r hirgron yng Nghymru, wrth i’r pêl-droedwyr sicrhau eu lle yn Ewro 2016 ar yr un pryd ag oedd y bois rygbi’n cystadlu yng Nghwpan y Byd.

Mae hynny wedi golygu wrth gwrs ein bod ni wedi gweld nifer o’r chwaraewyr allan o flaen y camerâu ac yn siarad â’r wasg yn ddiweddar – gan gynnwys sawl un o siaradwyr Cymraeg y timau.

Rydyn ni wedi arfer gweld rhai o sêr rygbi mwyaf Cymru yn siarad iaith y nefoedd dros y blynyddoedd, ac yn wir mae’r tîm wastad yn ymddangos fel petai â chynrychiolaeth dda o Gymry Cymraeg.

Ond mae hi’n dipyn o oes aur i’r siaradwyr Cymraeg yn y tîm pêl-droed bellach hefyd, gyda saith ohonynt yn rhan o’r garfan ddiwethaf – y nifer fwyaf erioed, mae’n debyg.

Beth fyddai tîm pêl-droed a rygbi Cymru’n edrych fel petai dim ond siaradwyr Cymraeg ynddi, felly? Iolo Cheung ac Illtud Dafydd sydd wedi bod yn pendroni.

Pêl-droed (Iolo Cheung)

Dyw cefnogwyr pêl-droed Cymru ddim wedi arfer gweld nifer o siaradwyr Cymraeg yn y garfan genedlaethol dros y blynyddoedd, ac felly mae’n braf gweld bod cynifer ohonyn nhw o gwmpas y tîm ar hyn o bryd.

Roedd saith ohonyn nhw yn y garfan ddiwethaf – y nifer fwyaf erioed mae’n debyg meddai’r arbenigwr ar hanes y bêl gron yng Nghymru, Phil Stead, wrtha i – ac ambell un arall wedi bod ynddi neu wedi ymarfer gyda’r tîm cyntaf yn ddiweddar.

Nid jyst rhai o’r chwaraewyr sy’n Gymry Cymraeg chwaith – mae’r hogyn o Fôn Osian Roberts yn is-reolwr ar y tîm bellach, ac mae eraill fel Ian Gwyn Hughes o fewn y Gymdeithas Bêl-droed yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei chlywed a’i gweld yn amlach y dyddiau hyn.

Serch hynny, cael a chael bu hi i mi ffurfio tîm hanner call o 11 chwaraewr presennol ar gyfer tîm o siaradwyr Cymraeg, ac mae ‘na dipyn o chwaraewyr canol cae!


Owain Fôn Williams (llun: CBDC)
Owain Fôn Williams
(28 oed) – Y golwr o Benygroes sydd bellach yn Inverness, ac er nad ydi o wedi ennill ei gap cyntaf eto mae wedi bod mewn digonedd o garfannau i haeddu un bellach.

Jordan Williams (19) – Amddiffynnwr ifanc Lerpwl sydd ar hyn o bryd ar fenthyg yn Swindon. Yn wreiddiol o Fangor, fe gafodd ei addysg yn Ysgol Y Garnedd ac mae wedi bod yng ngharfan Cymru’n barod.

Gethin Jones (20) – Hogyn o Borthmadog gafodd ei eni yn Awstralia, mae’r amddiffynnwr 20 oed, fel Jordan Williams, hefyd yng Nglannau Merswy ond gydag Everton.

Ben Davies (22) – Tri yn y cefn fydd ‘na yn y tîm yma, gyda’r chwaraewr 22 oed o Gastell Nedd yn cwblhau’r amddiffyn. Cyn-chwaraewr Abertawe sydd bellach Spurs yn aelod cyson o dîm Cymru a chanddo 17 cap.

Gwion Edwards (22) – Asgellwr Crawley Town, yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan (ac yn nai i Bethan Gwanas!). Un arall sydd wedi bod yn y garfan ond eto i ennill ei gap cyntaf.

Emyr Huws (22) – Chwaraewr canol cae Wigan sydd ar hyn o bryd ar fenthyg yn Huddersfield. Yn wreiddiol o Lanelli ond â thad o Amlwch ar Ynys Môn, dechreuodd ei yrfa ieuenctid gydag Abertawe cyn mynd ymlaen i fod yn gapten ar dîm dan-21 Man City.

David Vaughan (32) – Bellach yn chwarae i Nottingham Forest, mae gan y gŵr o Abergele 40 cap dros Gymru ac mae bellach yn un o hen bennau’r garfan.


Joe Allen yn siarad â'r wasg yn y Gymraeg
Joe Allen
(25) – Cyn-ddisgybl Ysgol y Preseli sydd bellach yn chwarae i Lerpwl, ar ôl gwneud ei farc gydag Abertawe wrth iddyn nhw godi i’r Uwch Gynghrair. Un o brif chwaraewyr y tîm cenedlaethol bellach.

Aaron Ramsey (24) – Chwaraewr mwyaf dawnus y tîm heblaw am Gareth Bale, mae’r bachgen o Gaerffili bellach yn serennu gydag Arsenal, ond heb wneud cyfweliad Cymraeg ers ei arddegau.

Wes Burns (20) – Ymosodwr ifanc Dinas Bryste wedi cael ei eni yng Nghaerdydd ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Un arall fydd yn gobeithio am gap cyntaf yn y blynyddoedd nesaf.

Nathan Craig (23) – Iawn, bosib ein bod ni’n rhedeg yn brin o enwau bellach. Cyn-ymosodwr Everton a Torquay bellach nôl gyda Chaernarfon. Byddai Owain Tudur Jones mwy na thebyg yn y tîm oni bai ei fod wedi ymddeol llynedd. Oes gennych chi awgrym arall ar gyfer yr unarddegfed enw?


Rygbi (Illtud Dafydd)

Mae sawl un o’r chwaraewyr yma yn gyfarwydd i ddilynwyr y bêl hirgron ac wedi ennill cap(iau) ryngwladol, ac ambell un wedi bod ymysg goreuon y byd yn eu safle.

Mae’n edrych fel bod ysgolion Cymraeg i’w weld yn fan cryf i fagu chwaraewyr rygbi. Tîm cryf ar y cyfan, yn enwedig gyda thri o ganolwyr Cymru yn y llinell ôl, ac fe allech chi ychwanegu Ben John ac Cory Allen i’r rhestr hefyd.

Nifer ohonynt yn ddigon parod i wneud cyfraniadau yn Gymraeg yn y cyfryngau, ac ambell i un yn defnyddio’r iaith ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae gan ysgolion uwchradd Cymraeg ei hiaith dueddiad o gystadlu gyda rhai o ysgolion rygbi gorau Prydain fawr, yn enwedig mewn cystadlaethau 7-bob ochr.


(chwith i'r dde) - Scott Williams, Rhys Priestland, Sam Warburton, George North a Ken Owens yn rhan o hysbyseb S4C ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd (llun: S4C)
Eifion Lewis-Roberts
 (34) – ‘Y Rhewgell’ o Lanelwy wedi ennill un cap, nol yn 2008. Wedi amser yn Toulon, fe arwyddodd gytundeb dwy flynedd gyda Sale Sharks ym mis Ionawr.

Ken Owens (28) – Capten y Scarlets gafodd ei addysg yn ysgol Gyfun Bro Myrddin. Rhan o garfan bresennol Cymru ac yn cystadlu gyda’r Gwalch Scott Baldwin am grys y bachwr.

Cai Griffiths (31) – Ail gog y rheng flaen. Trueni fod Robin McBryde wedi ymddeol neu fe fyddai gan hogiau’r Gogledd y rheng flaen gyfan. Y dyn o Gaernarfon nôl gyda’r Gweilch ers llynedd.

Macauley Cook (23) – Cyn-gapten tîm dan-20 Cymru wedi derbyn ei addysg yn Ysgol y Cymer. I’w weld yn fwy aml fel blaenasgellwr ochr dywyll.

Andrew Coombs (30) – 10 cap llawn ganddo, y cyntaf nôl yn 2013. Capten y Dreigiau yn un o hoelion wyth y rhanbarth. Cymraeg Gwent hyfryd gan yr ail-reng sydd, fel Cook, yn medru chwarae fel blaenasgellwr.

Thomas Young (23) – Wedi dilyn ei Dad i’r Wasps, cyn-ddisgybl Ysgol Rhydywaun dal heb gadarnhau ei safle ar y lefel uchaf.

Sam Lewis (24) – Cyn-chwaraewr y Gweilch nawr yn edrych ymlaen at dymor yn Uwch Gynghrair Aviva. Fe ymddeolodd ei frawd, Ben, o rygbi ym mis Mawrth 2011.

Josh Turnbull (27) – Wedi ennill saith cap dros Gymru ers 2011. Symudodd i’r Gleision o’i ranbarth cartref, y Scarlets, llynedd.


Gareth Davies yn un o sêr Cwpan y Byd eleni
Gareth Davies
 (25) – Mewnwr y Scarlets o Ysgol Dyffryn Teifi yn un o sêr Cwpan y Byd eleni, gan sgorio pump o geisiau a chamu allan o gysgo Mike Phillips a Rhys Webb.

Rhys Priestland (28) – Cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Bro Myrddin yn symud i Gaerfaddon wedi Cwpan y Byd. Pa effaith gaiff hynny ar ei gyfleoedd gyda’r tîm rhyngwladol?

George North (23) – Trydydd gog y tîm wedi ennill hanner can cap i Gymru, ac yn sgorio bron bob yn ail gêm. Ganwyd yn King’s Lynn.

Scott Williams (25) – Dim ond yn 24 ac wedi capteinio’i wlad yn barod. 9 cais mewn 30 gêm brawf ac un o chwaraewyr amlycaf y Scarlets.

Jon Davies (27) – Yn dysgu trydedd iaith yn yr Auvergne gyda Clermont. Anaf wedi gweld ei obeithion am ail Gwpan y Byd yn torri’n deilchion.

Jamie Roberts (28) – Cyn-ddisgybl yn ysgol gyfun cyntaf y brifddinas. Wedi ei symud i’r asgell, sef ei gyn-safle cyn i Warren Gatland ei newid mewn i ganolwr llwybr tarw, ar gyfer y tîm yma (er, ar ôl ei orchestion yn erbyn Lloegr ychydig wythnosau yn ôl, falle mai Lloyd Williams ddylai fod yn y safle yma!).

Dan Evans (26) – Cefnwr troed chwith yn un o chwaraewyr gorau’r Gweilch llynedd. Enillodd ddau gap i Gymru yn ystod taith Gogledd America yn 2009.

Oes unrhyw siaradwyr Cymraeg fyddech chi’n rhoi yn eich tîm pêl-droed neu rygbi chi? Pa mor dda ydych chi’n meddwl byddai’r ddau dîm dychmygol yn ei wneud ar y lefel rhyngwladol?