Zebre 8–20 Scarlets

Daeth y Scarlets yn ôl i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Zebre yn y Stadio Sergio Lanfranchi brynhawn Sul.

Yr Eidalwyr oedd ar y blaen ar hanner amser yn y gêm Guinness Pro12 ond yn ôl y daeth Bois y Sosban yn yr ail gyfnod i’w hennill hi gyda chais James Davies.

Zebre heb os oedd y tîm gorau yn y chwarter cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen diolch i gic gosb Mattia Bellini.

Daeth y Scarlets yn ôl i’r gêm yn raddol wedi hynny ac yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan y blaenwyr fe ddaeth cerdyn melyn i’r wythwr cartref, Andries Van Schalkwyk, a chic gosb i faswr yr ymwelwyr, Dan Jones.

Yn ôl y daeth Zebre serch hynny ac i’r pedwar dyn ar ddeg y daeth cais cyntaf y gêm ddeg munud cyn yr egwyl. Collodd y Scarlets y meddiant ar eu llinell ddeg medr eu hunain i roi cais syml ar blât i’r asgellwr, Mattia Bellini.

Caeodd Dan Jones y bwlch i ddau bwynt gyda’i ail gic gosb cyn yr hanner, ond fe allai pethau fod wedi bod lawer gwaeth i Fois y Sosban gan i Podovani fethu gyda phedwar cynnig at y pyst yn y deugain munud agoriadol.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn well wedi’r egwyl ac roeddynt ar y blaen am y tro cyntaf bedwar munud wedi’r ail ddechrau wrth i James Davies dorri’n rhydd trwy ganol sgarmes symudol i groesi’r gwyngalch.

Ychwanegodd Jones y trosiad cyn i ddwy gic gosb o droed yr eilydd faswr, Steve Shingler, roi deuddeg pwynt o fantais i’r ymwelwyr gyda deg munud i fynd.

Chwaraeodd y ddau dîm y munudau olaf gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn yr un, ond er i hynny greu diweddglo agored doedd dim cais arall i fod, 8-20 y sgôr terfynol.

.

Zebre

Cais: Mattia Bellini 29’

Cic  Gosb: Edoardo Padovani 11’

Cardiau Melyn: Andries Van Schalkwyk 24’, Bruno Postiglioni 67’

.

Scarlets

Ceisiau: James Davies 44’

Ciciau Cosb: Dan Jones 27’, 34’, 48’, Steven Shingler 65’, 68’

Cerdyn Melyn: George Earle 73’