Leinster 37–13 Dreigiau Casnewydd Gwent

Roedd Leinster rhy dda i’r Dreigiau wrth i’r Cymry ymweld â’r RDS yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref bedwar cais wrth ennill y gêm yn gyfforddus gyda phwynt bonws.

Roedd Leinster dri phwynt ar y blaen cyn i fewnwr y Dreigiau, Serel Pretorius, groesi am y cais cyntaf gydag ychydig dros chwarter y gêm wedi ei chwarae.

Y Gwyddelod oedd ar y blaen erbyn hanner amser serch hynny diolch i ddau gais mewn deg munud gan y cefnwr cartref, Isa Nacewa.

Cyfnewidiodd Jason Tovey a Fergus McFadden gic gosb yr un ar ddechrau’r ail hanner ac roedd y Dreigiau dal yn y gêm gydag ugain munud i fynd, 23-13 y sgôr.

Ond buddugoliaeth gyfforddus a haeddiannol oedd hi i’r tîm cartref yn y diwedd yn dilyn ceisiau hwyr Gary Ringrose a Cathal Marsh.

.

Leinster

Ceisiau: Isa Nacewa 26’, 35’, Gary Ringrose 64’, Cathal Marsh 67’

Trosiadau: Fergus McFadden 28’, 66’, 68’, Isa Nacewa 36’

Ciciau Cosb: Fergus McFadden 12’, 16’, 53’

.

Dreigiau

Cais: Serel Pretorius 22’

Trosiad: Jason Tovey 23’

Ciciau Cosb: Jason Tovey 15’, 56’