Rhys Webb
Mi fydd Rhys Webb yn methu chwarae rygbi tan 2016 ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei droed.

Dioddefodd y mewnwr anaf sylweddol i’w droed yn gynharach yn y mis mewn gem baratoi yn chwarae i dîm Cymru cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd.  Mae’r chwaraewr bellach yn ôl gyda’r Gweilch i wella o’i anaf.

Cadarnhaodd Rheolwr Meddygol y Gweilch Chris Towers y byddai Rhys Webb yn wynebu cyfnod hir yn gwella o’r llawdriniaeth:   “Fe ddioddefodd Rhys anaf sylweddol i’w droed ac fe dderbyniodd lawdriniaeth i’w sefydlogi.

“Fe fydd yn rhaid iddo beidio pwyso ar ei droed am dros chwe wythnos, ac fe fydd wedyn yn gwisgo esgid arbennig am bedair i chwe wythnos arall.”

Ychwanegodd: “Dim ond wedyn fyddwn ni mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda’i adferiad, ond mae’n debyg fod Rhys yn wynebu chwech i wyth mis allan o’r gêm, sy’n adlewyrchu difrifoldeb yr anaf.”