Mae problemau Cymru ag anafiadau wedi bod yn hysbys iawn dros yr wythnosau diwethaf, gyda Cory Allen y diweddaraf i gael ei ychwanegu at y rhestr o’r rheiny fydd yn methu gweddill Cwpan y Byd.

Ond wrth i’r crysau cochion baratoi i herio Lloegr dydd Sadwrn yn eu hail gêm grŵp, mae’r Saeson hefyd wedi bod yn cael trafferthion ag anafiadau.

Heddiw fe ddatgelodd hyfforddwr Lloegr Andy Farrell bod y canolwr Jonathan Joseph a’r wythwr Ben Morgan yn amheuon ar gyfer y gêm.

Cafodd Joseph glec i’w frest yn y fuddugoliaeth agoriadol dros Fiji ac mae gan Morgan broblem â’i ben-glin.

Anafiadau ar y ddwy ochr

Fe fydd Cymru a Lloegr yn enwi eu timau ddydd Iau ar gyfer yr ornest fawr dros y penwythnos, gydag enillwyr y gêm yn debygol o fod mewn safle cryf i gyrraedd y rownd nesaf.

Byddai colli Jonathan Joseph yn ergyd mawr i obeithion Lloegr ac yn hwb i Gymru, gan fod y canolwr wedi bod yn greiddiol i fygythiad y Saeson yng nghanol cae eleni.

Fe allai hynny olygu bod Brad Barritt yn symud o grys rhif 12 i 13, gyda Henry Slade, Sam Burgess a hyd yn oed Owen Farrell yn opsiynau eraill.

Os nad yw Ben Morgan yn ffit yna fe fyddai Bill Vunipola mwy na thebyg yn camu o’r fainc gyda James Haskell yn cael lle ymysg yr eilyddion.

Y prif bryder sydd gan hyfforddwr Cymru Warren Gatland ar hyn o bryd yw dros ffitrwydd y prop Paul James, gyda chwaraewyr eraill fel Liam Williams, Samson Lee ac Aaron Jarvis yn obeithiol o fod yn ffit ar gyfer yr ornest fawr.