Twickenham
Mae prop Cymru Tomas Francis wedi mynnu na fydd y tîm yn malio dim eu bod nhw’n gorfod teithio i Twickenham i herio Lloegr dydd Sadwrn, gan rybuddio’r Saeson i ddisgwyl gêm galed.

Fe enillodd Francis, a gafodd ei eni yn Swydd Efrog, ei drydydd cap dros Gymru dydd Sul ar ôl dod oddi ar y fainc yn y fuddugoliaeth agoriadol gyfforddus dros Wrwgwai yng Nghwpan y Byd.

Mae’n bosib fodd bynnag y bydd yn rhaid i hyfforddwr Cymru Warren Gatland alw ar Francis o’r cychwyn cyntaf yn erbyn Lloegr, a hynny gan fod y prop Samson Lee ymysg sawl chwaraewr gafodd anaf dros y penwythnos.

Byddai colli’r penwythnos yma yn ergyd drom i obeithion Cymru o aros yn y gystadleuaeth, ond dyw hynny ddim yn poeni’r blaenwr 21 stôn.

“Dw i wrth fy modd a dweud y gwir. Rydyn ni’n gwybod beth sy’n dod ac rydyn ni’n edrych ymlaen,” meddai Tomas Francis.

‘Dim gêm fwy na hon’

Fe fydd Francis, sydd yn chwarae i Gaerwysg yn Uwch Gynghrair Aviva Lloegr, yn hen gyfarwydd â sawl un o’r gwrthwynebwyr mewn gwyn ddydd Sadwrn.

“Gan mod i’n chwarae yn y Premiership dw i wedi wynebu pob un ohonyn nhw jyst a bod, a dw i’n gwybod beth sydd ganddyn nhw i’w gynnig,” meddai Francis wrth drafod tîm Lloegr.

“Mae gennym ni ddigon i gystadlu gyda nhw a hyd yn oed eu herio nhw, dw i’n meddwl.

“Fydden i ddim yn dweud fod rhaid i ni sefyll lan iddyn nhw. Dydyn ni ddim yn eu hofni nhw o gwbl. Fel tîm Cymru does dim ots gennym ni ble rydyn ni’n chwarae – gartref neu oddi cartref. Mae’n record ni’n dangos ein bod ni’n ei fwynhau e.

“Does dim angen i ni gael ein hannog, mae pawb yn edrych ymlaen yn barod. Lloegr yn Nhwickenham yn eu Cwpan y Byd nhw, dyw e ddim yn mynd lot mwy na hynny.”