Leinster 23–15 Gleision

Leinster aeth â hi mewn gêm Guinness Pro12 agos rhwng Leinster a’r Gleision yn yr RDS nos Sadwrn.

Un sgôr oedd rhwng y ddau dîm am ran helaeth o’r gêm cyn i’r Gwyddelod ei hennill hi gyda chais cosb bedwar munud o ddiwedd yr wyth deg.

Rhoddodd dwy gic gosb Rhys Patchell fanatais gynnar i’r Gleision cyn i’r Gwyddelod ymateb gyda chic gosb Isa Nacewa a chais yr wythwr, Jack Conan.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn ôl o fewn pwynt erbyn hanner amser diolch i drydedd cic gosb lwyddiannus o droed Patchell.

Cyfnewidodd Patchell a Nacewa ddwy gic gosb arall yr un yn yr ail hanner gyda Leinster yn parhau bwynt ar y blaen wrth i’r gêm fynd i’w chwarter awr olaf.

Gorffennodd y Gleision y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg oherwydd cerdyn melyn hwyr Josh Navidi ac roedd y pwysau yn ormod i’r blaenwyr wrth iddynt ildio cais cosb bedwar munud o’r diwedd.

Rhoddodd trosiad syml Nacewa ddwy sgôr o fwlch rhwng y ddau dîm am y tro cyntaf a doedd dim ffordd yn ôl i’r Cymry.

.

Leinster

Ceisiau: Jack Conan 16’, Cais Cosb 76’

Trosiadau: Isa Nacewa 17’, 77’

Ciciau Cosb: Isa Nacewa 13’, 46’, 66’

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 3’, 7’, 33’, 51’, 56’

Cerdyn Melyn: Josh Navidi 75’