Scarlets 22–12 Ulster

Chwarae dwy, ennill dwy, yw record y Scarlets ar ddechrau’r tymor yn y Guinness Pro12 wedi iddynt drechu Ulster ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y Scarlets y tymor gyda buddugoliaeth yn Glasgow yr wythnos diwethaf ac roedd cais Parks a chicio cywir Jones yn ddigon i sicrhau ail fuddugoliaeth iddynt yr wythnos hon.

Cafodd y ddau dîm eu cyfnodau mewn deugain munud agoriadol eithaf cyfartal ond roedd annel y maswr cartref, Daniel Jones, yn gywir wrth gicio at y pyst.

Rhoddodd tair cic gosb lwyddiannus ganddo ei dîm naw pwynt ar y blaen ar yr egwyl er iddynt orffen yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn y prop, Peter Edwards.

Dechreuodd Bois y Sosban yr ail hanner yn dda gyda Hadleigh Parks yn croesi am gais cyntaf y gêm bum munud yn unig wedi’r ail ddechrau.

Rhoddodd trosiad Jones y Cymry un pwynt ar bymtheg ar y blaen ond yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r gêm wedi hynny.

Gyda John Barclay yn y gell gosb i’r Scarlets fe groesodd yr asgellwr, Rory Scholes, am bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr.

Roedd Ulster yn ôl o fewn un sgôr wyth munud o’r diwedd wedi i’r dyfarnwr chwibanu am gais cosb, a bu rhaid i’r Scarlets orffen y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i George Earle dderbyn trydydd cerdyn melyn y tîm cartref.

Dal eu gafael a wnaeth Bois y Sosban serch hynny gan orffen gyda chic gosb o droed yr eilydd faswr, Aled Thomas, i roi deg pwynt rhwng y ddau dîm ar y diwedd. 22-12 y sgôr terfynol.

.

Scarlets

Cais: Hadleigh Parks 45’

Trosiad: Daniel Jones 46’

Ciciau Cosb: Daniel Jones 2’, 18’, 24’, 62’, Aled Thomas 80’

Cardiau Melyn: Peter Edwards 37’, John Barclay 53’, George Earle 72’

.

Ulster

Ceisiau: Rory Scholes 54’, Cais Cosb 71’

Trosiad: Stuart McCloskey 72’