Mae disgwyl i wythwr y Scarlets, Morgan Allen fod allan am hyd at bedwar mis wrth iddo gael llawdriniaeth ar ei fraich.

Cafodd Allen ei anafu tra’n ymarfer yn yr wythnos cyn gornest agoriadol y rhanbarth yn erbyn Glasgow yn y PRO12 yr wythnos diwethaf.

Symudodd Allen o’r Gweilch dros yr haf.

Mae pryderon hefyd am y mewnwr Rhodri Williams, sydd wedi cael anaf i’w ben, a Jack Payne sydd wedi anafu ei ffêr.