Mae Gleision Caerdydd wedi cychwyn eu hymgyrch Guinness PRO 12 gyda buddugoliaeth ysgubol 61-13 yn erbyn Zebre ym Mharc yr Arfau.

Llwyddodd Rhys Patchell a Josh Turnbull i sgorio hatric yr un; fe wnaeth Josh Navidi ac Aled Summerhill sgorio dau gais yr un, ac fe sgoriwyd cais gan Tom Jones hefyd.

Roedd Zebre yn arwain 6-5 ar ôl 35 munud, ond wedyn cododd y Gleision eu gêm, ac fe fyddai’r sgôr yn uwch fyth pe na bai Patchell wedi methu saith o’i wyth ymgais i drosi. Fe wnaeth Gareth Davies a Dan Fish drosi dau o’r ceisiau eraill i ddod â chyfanswm pwyntiau’r tîm cartref i 61.

Dwy gic gosb gan Maicol Azzolini a chais a throsiad gan Ulrich Beyers a fu’n gyfrifol am 13 pwynt yr ymwelwyr.