Glasgow 10–16 Scarlets

Dechreuodd y Scarlets eu tymor yn y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros Glasgow yn Scotstoun brynhawn Sadwrn.

Pedwar munud yn unig gymrodd hi i Aaron Shingler groesi am y cais agoriadol cyn i Hadleigh Parkes ychwanegu’r ail hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn dwylo da Regan King.

Bu Dan Jones yn aflwyddiannus gyda sawl cic gynnar ond llwyddodd i ymestyn mantais ei dîm i dri phwynt ar ddeg gyda chic gosb cyn yr egwyl.

Llwyddodd Jones gyda chic gosb arall yn yr ail hanner ond roedd yr Albanwyr fymryn yn well wedi troi. Serch hynny, nid oedd ceisiau Michael Cusack a Glenn Bryce yn ddigon i ddwyn y fuddugoliaeth oddi ar y Cymry.

.

Glasgow

Ceisiau: Michael Cusack 45’, Glenn Bryce 79’

Cerdyn Melyn: Grayson Hart 26’

.

Scarlets

Ceisiau: Aaron Shingler 4’, Hadleigh Parkes 19’

Ciciau Cosb: Dan Jones 28’, 54’

Cardiau Melyn: James Davies 79’, John Barclay 80’