Gethin Jenkins
Mae’r Gleision wedi enwi Gethin Jenkins fel capten ar gyfer y tymor newydd, gyda Josh Navidi yn camu i’r bwlch tra bod y prop i ffwrdd gyda charfan Cymru.

Mae’r prop 34 oed wedi gwneud 154 ymddangosiad dros y Gleision mewn dau gyfnod gyda’r rhanbarth, ac ar hyn o bryd mae e gyda thîm Cymru yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd.

Yn ei absenoldeb fe fydd y blaenasgellwr Josh Navidi, sydd newydd arwyddo cytundeb hir dymor newydd, yn arwain y Gleision.

Arwain drwy esiampl

“Mae Gethin wedi bod yn chwaraewr gwych i’r Gleision a Chymru dros y ddegawd ddiwethaf, yn brofiadol tu hwnt ac wedi bod yn chwarae rygbi gwych dros y tymhorau diwethaf,” meddai prif hyfforddwr y rhanbarth Danny Wilson.

“Mae Gethin yn arwain drwy esiampl bob tro mae’n rhoi’r crys ymlaen ac roedd hwnna’n nodwedd hanfodol roedden ni’n chwilio amdano wrth edrych ar bwy fyddai’r capten.”

Ychwanegodd Danny Wilson ei fod yn hyderus y bydd Navidi â chefnogaeth lawn y tîm yn ystod wythnosau cyntaf y tymor tra bod rhai o chwaraewyr mwyaf profiadol eu carfan i ffwrdd gyda’u timau rhyngwladol.