George North
Mae Leigh Halfpenny’n credu y bydd dychweliad George North i dîm Cymru yn hwb mawr iddyn nhw’r penwythnos yma wrth iddyn nhw nesáu at Gwpan y Byd.

Dyw’r cawr o asgellwr o Fôn heb chwarae ers mis Mawrth ar ôl dioddef tair cyfergyd mewn pum mis y tymor diwethaf.

Ond mae bellach wedi gwella o’r ergydion hynny, ac ar ôl haf o ymarfer caled gyda charfan rygbi Cymru mae’n barod i wynebu Iwerddon yn eu hail gêm baratoadol y penwythnos hwn.

Bydd Warren Gatland yn enwi’r tîm i wynebu’r Gwyddelod dydd Iau, ac mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’i chwaraewyr dewis cyntaf gan gynnwys North a Halfpenny gymryd rhan.

‘Hwb mawr’

“Mae George yn edrych ymlaen at chwarae eto, ac mae’n grêt ei weld yn ôl,” meddai Leigh Halfpenny wrth siarad am yr asgellwr sydd yn cael ei adnabod gan gefnogwyr Cymru fel ‘Gogzilla’.

“Mae’n chwaraewr gwych ac fe fydd e’n dda ei weld yn ôl ar y cae. Mae e wedi edrych yn dda yn yr ymarferion, felly fe fydd e’n hwb mawr ei weld yn ôl.

“Mae cyfergyd yn anaf difrifol ac mae’n gallu bod yn beryglus, felly mae’n rhaid delio ag e yn y ffordd gywir, ac mae’r staff meddygol yn gwneud hynny’n dda iawn.

“Maen nhw’n gwneud yn siŵr fod y chwaraewr ddim ond yn dychwelyd pan mae’n hollol iawn iddyn nhw chwarae, ac mae hynny’n bwysig.”

Dwy gêm ar ôl

Dwy gêm baratoadol sydd gan Gymru ar ôl cyn dechrau Cwpan y Byd, wrth iddyn nhw herio Iwerddon yn Nulyn y penwythnos yma ac yna croesawu’r Eidal i Gaerdydd yr wythnos ganlynol.

Fe gollodd bechgyn Warren Gatland eu gêm baratoadol gyntaf o 35-21 yn erbyn y Gwyddelod, ond chwaraewyr ar gyrion y garfan gafodd eu dewis gan y ddau dîm ar gyfer y gêm honno.

Dydd Llun fe fydd Gatland yn dewis ei garfan derfynol o 31 chwaraewr ar gyfer Cwpan y Byd, wrth iddyn nhw baratoi i herio Awstralia, Lloegr, Fiji ac Uruguay yn y grŵp mwyaf heriol ohonyn nhw i gyd.