Taulupe Faletau
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi dweud heddiw y byddai’n barod i atal Taulupe Faletau rhag symud i Gaerfaddon.

Dros yr haf mae’r clwb o Loegr wedi bod yn ceisio denu wythwr Cymru oddi wrth y Dreigiau, ond nawr mae Gatland wedi awgrymu ei fod yn barod i ddefnyddio rheolau newydd i atal y chwaraewr rhag gadael.

Mae hawl Faletau i chwarae yng ngemau Cymru ar ôl iddo symud i Gaerfaddon hefyd wedi bod yn fater o drafod, ac yn ôl cytundeb y rhanbarthau ac Undeb Rygbi Cymru llynedd mae gan Gatland ddweud ynglŷn ag os yw Faletau yn cael gadael.

Mewn cyfweliad â Sky Sports News, fe ddatgelodd hyfforddwr Cymru hefyd fod amheuon o hyd dros ffitrwydd Samson Lee ar gyfer Cwpan y Byd sydd yn dechrau yn yr hydref.

Lle i ddau

Ar ôl Cwpan y Byd eleni fe fydd polisi newydd yn cael ei weithredu wrth ddewis carfan rygbi Cymru, gyda dim ond dau chwaraewr sydd wedi arwyddo i glybiau y tu allan i Gymru yn cael eu dewis.

Mae Jamie Roberts (Harlequins) a Rhys Priestland (Caerfaddon) eisoes wedi arwyddo i glybiau yn Lloegr, ond dyw’r rheolau newydd ddim yn weithredol ar gyfer chwaraewyr fel George North a Leigh Halfpenny sydd eisoes gyda chlybiau y tu hwnt i Glawdd Offa.

Petai Faletau yn symud, fodd bynnag, fe fyddai hynny’n rhoi cur pen i Gatland pan fyddai’n dod at ddewis ei ddau ‘Gymro oddi cartref’.

“Bydden i’n cyfyngu fy hunan a pham fydden ni eisiau gwneud hynny?” meddai Gatland heddiw.

“Ar hyn o bryd, oni bai fod rhywbeth yn newid, gobeithio bydd e [Faletau] yn chwarae yng Nghymru [tymor nesaf].”

Ffitrwydd

Cadarnhaodd Warren Gatland na fydd Liam Williams yn cymryd rhan yng ngemau paratoadol Cymru cyn Cwpan y Byd, gyda’r cefnwr yn dal i wella o anaf.

Dyw’r tîm hyfforddi dal ddim yn siŵr chwaith a fydd y prop Samson Lee yn ffit ar gyfer y twrnament, gyda Gatland yn cyfaddef ei bod hi’n bosib y bydd yn rhaid ei gynnwys yn y garfan er ei fod dal wedi anafu.

Bydd y garfan estynedig yn cael ei lleihau i rhwng 36 a 38 chwaraewr ar ôl y gêm baratoadol gyntaf yn erbyn Iwerddon ar 8 Awst.

Mae hyfforddwr Cymru hefyd wedi cwestiynu’r broses o ddewis grwpiau Cwpan y Byd tair blynedd cyn y twrnament, pan oedd Cymru ymysg y trydydd pot o ddetholion.

Mae hynny wedi golygu y byddan nhw’n wynebu Awstralia a Lloegr yn ogystal â Fiji ac Uruguay eu grŵp yn yr hydref, gyda dim ond dau dîm yn mynd drwyddo, ac o leiaf un o gewri’r byd rygbi yn wynebu mynd adref yn gynnar.

“Dw i ddim yn deall pam gafodd y grwpiau eu dewis mor gynnar, pan mae gennych chi [nawr] y timau sydd yn bedwerydd, pumed a chweched [yn netholiadau’r byd presennol] yn yr un grŵp,” meddai Gatland.