Liam Williams
Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cadarnhau bod disgwyl i’r asgellwr Liam Williams fod allan am ddeg wythnos ar ôl llawdriniaeth i’w droed.

Ond mae’n disgwyl i chwaraewr y Scarlets ymuno â charfan Cymru ar gyfer eu taith baratoadol i Qatar dros yr haf, yn ogystal â bod yn ffit ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref.

Mae’r un peth yn wir am Samson Lee, gyda Gatland yn ffyddiog y bydd y prop yn holliach ar gyfer y twrnament a bod ganddo obaith chwarae yn y gêm baratoadol olaf yn erbyn Iwerddon.

Gweithio ar ffitrwydd

Mae’r garfan eisoes wedi dechrau ymarfer fel rhan o’u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd, ac fe fyddan nhw’n ymweld â’r Swistir, Gwlad Pwyl a Qatar dros yr haf i wneud gwaith ffitrwydd pellach.

Dywedodd Gatland ei fod yn “optimistaidd” y bydd Liam Williams yn barod ar gyfer y twrnament, ac nad oedd angen galw unrhyw un arall i’r garfan.

Ond fe gyfaddefodd y gallai rhagor o anafiadau effeithio ar baratoadau Cymru.

“Os ydyn ni’n cael cwpl mwy o anafiadau wedyn mae’n mynd i greu ychydig o broblemau i ni,” meddai’r hyfforddwr.

“Mae hynny wastad wedi bod yn her i ni. Rydyn ni’n gwybod pa mor gryf allwn ni fod pan mae gennym ni garfan ffit. Rydych chi wastad yn gwybod eich bod chi am golli un neu ddau yn ystod yr ymgyrch, ond mae wastad yn anodd pan chi’n colli nhw cyn i chi ddechrau.”