Stephen Jones
Fe fydd cael Stephen Jones yn rhan o staff hyfforddi’r Scarlets yn “hwb mawr i’r tîm”, yn ôl un o chwaraewyr newydd y rhanbarth.

Mae cyn-faswr Cymru a’r Scarlets wedi dychwelyd i Lanelli’r tymor hwn ar ôl dechrau ei yrfa hyfforddi gyda Wasps.

Ac yn ôl y prop Will Taylor, sydd hefyd wedi ymuno â’r Scarlets o Wasps, fe fydd hyfforddiant Stephen Jones yn gymorth mawr i’r olwyr ac i fygythiad ymosodol y tîm.

Ffigwr poblogaidd

Bu Taylor yn chwarae ochr yn ochr â Jones gyda Wasps cyn i’r maswr ymddeol ac ymuno â staff hyfforddi Dai Young yn 2012 fel hyfforddwr yr olwyr.

Ac mae’r prop 24 oed yn ffyddiog y gall Jones nawr wneud cyfraniad mawr nôl gyda’r rhanbarth ble ddechreuodd ei yrfa.

“Roedd y bois yn hoff ohono fe yn Wasps. Mae e’n hyfforddwr da ac roedd y bois yn closio ato fe. Fe fydd e’n hwb mawr i’r tîm ac fe fydd y bois yn ymateb yn dda iddo,” meddai Will Taylor, a ddechreuodd ei yrfa gyda’r Gweilch.

Helpu’r ymosod

Yn ôl Will Taylor fe allai Stephen Jones efelychu llwyddiant ymosodol Wasps y tymor diwethaf, pan sgoriodd y tîm fwy o geisiau nag unrhyw un arall yng Nghynghrair Aviva Lloegr, gyda’i ranbarth newydd.

“Y ffordd roedd Wasps yn chwarae tymor diwethaf roeddech chi’n gallu gweld bod yr olwyr yn sgorio ceisiau fel hwyl. Gwaith Steve oedd yn gyfrifol am hynny,” meddai Taylor.

“Mae Steve yn hyfforddwr da sy’n gwneud yn sir bod y bois yn gwybod eu rôl. Mae e wastad yno os oes rhywun angen help ychwanegol ar ôl ymarfer ac mae’n dda gyda’r bechgyn ifanc.

“Mae’r cam yna o fod yn chwaraewr i fod yn hyfforddwr yn gallu bod yn anodd ond fe wnaeth e fe’n dda. Roedd y bois i gyd yn mwynhau ei gael e fel hyfforddwr ac yn siomedig ei weld e’n gadael.

“Colled Wasps yw bendith y Scarlets.”