Liam Williams
Mae Liam Williams yn wynebu brwydr i fod yn ffit erbyn Cwpan Rygbi’r Byd ar ôl cael llawdriniaeth ar ei droed, dywedodd Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad heddiw.

Mae chwaraewr y Scarlets yn parhau i fod yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru, ond nid yw’n hysbys pryd fydd o’n holliach eto.

Mae’r chwaraewr 24 mlwydd oed wedi dod yn rhan annatod o dîm Cymru Warren Gatland, ac mae’n gallu chwarae fel asgellwr neu gefnwr.

Mae Cymru eisoes yn gorfod mynd i’r bencampwriaeth heb y canolwr Jonathan Davies, sydd wedi anafu ei ben-glin.

Bydd Cymru yn chwarae eu gem gyntaf yng Nghwpan y Byd drwy chwarae yn erbyn Wrwgwai yn Stadiwm y Mileniwm ar 20 Medi.

Byddan nhw hefyd yn yr un grŵp â Lloegr, Awstralia a Fiji.