Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi penodi Danny Wilson fel Prif Hyfforddwr y rhanbarth ar gytundeb tair blynedd.

Hon yw swydd gyntaf Danny Wilson fel prif hyfforddwr ar lefel clwb, ond mae wedi gwneud enw i’w hun yn hyfforddi gyda rhanbarthau’r Scarlets a’r Dreigiau yn y gorffennol.

Mae hefyd wedi arwain tîm dan-20 Cymru, cyn symud i Fryste llynedd.

“Dw i mor falch ac mor gyffrous i gael fy enwi yn Brif Hyfforddwr Gleision Caerdydd,” meddai DAnny Wilson wrth gyhoeddi’r penodiad.

“Hoffwn i ddiolch gyntaf i Andy Robinson a Bristol Rugby am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth wrth adael i mi gymryd y cyfle yma. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw’r tymor nesaf ac yn y dyfodol.

“Rydw i nawr yn edrych ymlaen at ddechrau ym Mharc Yr Arfau BT Sport, rhywle sydd yn llawn hanes a thraddodiad, gan adeiladu amgylchedd, diwylliant a charfan fydd yn mynd a ni ‘mlaen yn y tymor hir.”

Mae disgwyl i staff hyfforddi Danny Wilson gael eu cadarnhau yn yr wythnosau nesaf.