Munster 21–18 Gweilch

Colli o drwch blewyn fu hanes y Gweilch yn erbyn Munster ar Barc Thomond brynhawn Sadwrn yn rownd gynderfynol y Guinness Pro12.

Tri phwynt oedd ynddi wrth i’r cloc droi’n goch ar ddiwedd y gêm, ac roedd Josh Matavesi’n meddwl ei fod wedi ei hennill hi gyda chais hwyr i’r Gweilch. Ond torrwyd calonnau’r Cymru wrth i Nigel Owens wrthod y cais gan i Rhys Webb daro’r bêl ymlaen yn gynharach yn y symudiad.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gweilch yn addawol ac roedd angen tacl dda i atal Eli Walker rhag croesi yn y gornel yn y munudau agoriadol.

Bu rhaid iddynt fodloni yn hytrach ar gic gosb o droed Dan Biggar i’w rhoi ar y blaen wedi chwarter awr.

Daeth Munster yn fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal o fewn dim diolch i gic gosb Ian Keatley.

Rhoddodd maswr Muntser ei dîm ar y blaen gyda’i ail gic lwyddiannus yn dilyn sgarmes symudol rymus gan y Gwyddelod.

Cafodd Keatley gyfle arall i ymestyn mantais ei dîm ond roedd wedi anghofio ei esgidiau cicio.

Doedd dim byd yn bod ar ei redeg serch hynny, bylchiad gan y maswr greodd gais cyntaf y gêm ddau funud cyn yr egwyl. Bylchodd Keatley, roedd CJ Stander a Paddy Butler yno i barhau â’r symudiad a Simon Zebo wrth law i sgorio’r cais.

Methodd Keatley’r trosiad ond roedd gan y Gwyddelod wyth pwynt o fantais ar yr egwyl, 11-3 y sgôr.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn llawn cyffro gyda phedwar cais yn y chwarter awr cyntaf.

Daeth y cyntaf i Denis Hurley wrth i Munster ymstyn eu mantais i dri phwynt ar ddeg. Gorffennodd y canolwr yn dda yn y  gornel dde yn dilyn gwaith da gan y blaenwyr.

Tarodd yr ymwelwyr yn ôl yn syth gyda chais i Webb, y mewnwr yn rhyng-gipio pas Stander yn dilyn sgrym gref gan y Gweilch.

Blaenasgellwr Munster, Butler, oedd y sgoriwr nesaf, yn taro’r llinell ar ongl dda i gwblhau symdiad taclus.

Ond yn ôl daeth y Gweilch drachefn gyda chais unigol da gan Jeff Hassler. Rhedodd yr asgellwr yr holl ffordd o’r llinell hanner gan osgoi sawl tacl ar ei ffordd at y llinell gais. Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad, a thri phwynt oedd ynddi gyda dros chwarter y gêm ar ôl.

Rhoddodd cic gosb Biggar y Cymry o fewn tri phwynt gydag ychydig llai na chwarter awr i fynd ond roedd amddiffyn Muntser yn gadarn.

A phan wnaeth Matavesi lwyddo orchfygu’r amddiffyn hwnnw yn yr eiliadau olaf, daeth penderfyniad cywir y dyfarnwr teledu i achub y Gwyddelod.

Gêm dda felly, ond tymor y Gweilch yn dod i ben ar Barc Thomond.

.

Muntser

Ceisiau: Simon Zebo 39’, Denis Hurley 43’, Paddy Butler 50’

Ciciau Cosb: Ian Keatley 17’, 23’

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 47’, Jeff Hassler 53’

Trosiad: Dan Biggar 54’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 14’, 67’