Treviso 13–17 Scarlets

Cael a chael oedd hi ond llwyddodd y Scarlets i orffen yn chwech uchaf y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth glos dros Treviso yn y Stadio Monigo brynhawn Sadwrn.

Roedd angen dau bwynt arnynt i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf ac er iddynt fod er ei hôl hi am ran helaeth o’r gêm fe gawsant y fuddugoliaeth yn y diwedd diolch i gais hwyr Steffan Evans.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Scarlets ddechrau gwael wrth i fachwr Treviso, Davide Giazzon, groesi am gais cynnar yn dilyn sgarmes symudol rymus gan yr Eidalwyr.

Methodd Jayden Hayward y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb hanner ffordd trwy’r hanner i ymestyn mantais ei dîm i wyth pwynt.

Tynnodd Rhys Priestland dri phwynt yn ôl i’r Scarlets wedi hynny ond aeth Treviso ym mhellach ar y blaen pan redodd Hayward yr holl ffordd i sgorio ail gais i’r tîm cartref ar ôl rhyng-gipio’r bêl ar y llinell hanner, 13-3 y sgôr ar yr hanner.

Ail Hanner

Roedd Bois y Sosban yn well wedi’r egwyl ond bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am eu cais cyntaf, Liam Williams yn taro’r llinell amddiffynnol ar ongl dda ac yn croesi o dan y pyst.

Tri phwynt oedd ynddi felly wedi trosiad rhwydd Priestland ac aeth y Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda deuddeg munud i fynd pan groesodd Evans yn y gornel i gwblhau symudiad da.

Llwyddodd Priestland gyda’r trosiad anodd o’r ystlys a daliodd ei dîm eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Byddai’r chweched safle wedi bod yn ddiogel i’r Cymry yn y diwedd pryn bynnag gan i Gaeredin a Connacht golli eu gemau hwy ond bydd Bois y Sosban yn falch eu bod wedi llwyddo i orffen y tymor gyda buddugoliaeth.
.
Treviso
Ceisiau:
Davide Giazzon 13’, Jayden Hayward 28’
Cic Gosb: Jayden Hayward 20’
.
Scarlets
Ceisiau:
Liam Williams 61’, Steffan Evans 69’
Trosiadau: Rhys Priestland 62’, 70’
Cic Gosb: Rhys Priestland 26’