Fe fydd George North yn colli gêm fawr Northampton yn erbyn Clermont yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi i’w glwb gadarnhau fod yr asgellwr yn dal i dderbyn triniaeth ar ôl cael ei daro’n anymwybodol – cyfergyd.

Cafodd y Cymro ei gicio yn ei ben mewn gêm yn erbyn Wasps y penwythnos diwethaf cyn cael ei gludo oddi ar y cae, ac fe gafodd chwaraewr Wasps, Nathan Hughes, gerdyn coch a gwaharddiad o dair gêm am y digwyddiad.

Honno oedd y pedwerydd gwaith mewn pum mis i North gael clec i’w ben ar y cae rygbi, ac mae cyn-ymgynghorydd meddygol i World Rugby eisoes wedi awgrymu y dylai beidio â chwarae eto’r tymor hwn.

‘Gwella’

Mae George North bellach yn cael cyngor gan niwrolegydd ynglŷn â’r anaf, ond fe ddywedodd hyfforddwr Northampton Jim Mallinder fod yr asgellwr yn gwella.

Ond fydd e ddim yn holliach ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Clermont yn rownd wyth olaf Ewrop ar ddydd Sadwrn.

“Fyddwn ni ddim yn ei ddewis e ar y penwythnos. Mae’n amlwg wedi cael clec gas,” meddai Jim Mallinder. Mae e’n gwella’n dda. Y diwrnod wedyn roedd e’n ôl ar ei draed.

“Mae e’n mynd i weld niwrolegydd. Bydd rhaid i ni aros i weld beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud.”