Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sydd yn edrych yn ôl ar gyhoeddiad yr wythnos hon …

Wythnos yma fe gyhoeddwyd bod pum chwaraewr ychwanegol wedi arwyddo cytundebau canolog rhwng Undeb Rygbi Cymru a Pro Rugby Wales (bwrdd rheoli’r pedwar rhanbarth).

Fe arwyddodd Rhys Webb, Dan Biggar, Alun Wyn Jones, Gareth Anscombe a Scott Williams gytundebau, gan ddilyn ôl traed Sam Warburton, Dan Lydiate, Samson Lee, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Tyler Morgan a Hallam Amos.

Ond mae un enw’n sefyll allan uchod, y maswr o Seland Newydd sydd bellach yng ngharfan y tîm rhyngwladol.

Gareth Anscombe

Fe ddaeth Anscombe o Seland Newydd yn yr Hydref i arwyddo dros y Gleision, yn wreiddiol i gystadlu gyda Rhys Patchell, Gareth Davies a Simon Humberstone am y crys rhif 10.

Yn 2011 Anscombe oedd maswr tîm dan-20 y Crysau Duon, a phrif sgoriwr pwyntiau Pencampwriaeth y Byd dan-20 y flwyddyn honno gan guro George Ford, maswr presennol Lloegr.

Yn 2013 fe ailarwyddodd gyda’r Chiefs yn Waikato wedi i’r Auckland Blues ei ryddhau yn 2012. Yn ystod ei dymor olaf yn Seland Newydd roedd yn gwisgo’r crys rhif pymtheg, gan lenwi’r gwagle a adawyd gan Mils Muliaina sydd nawr yn chware i Connacht, ac ef oedd yn gyfrifol am gicio pwyntiau’r Chiefs.

Y tymor yma mae wedi chwarae saith gêm gynghrair a phedair gêm Ewropeaidd, ac wedi sgorio mwy o bwyntiau yn Ewrop nac yn y Pro12 (gwnewch beth a fynnwch o safon gwrthwynebwyr y Gleision yn Ewrop).

Mae Anscombe yn aelod presennol o garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, ond Dan Biggar a Rhys Priestland sydd wedi’u henwi yn y garfan o 23 ar gyfer y gemau.

Bydd cyfle i Anscombe yn y crys coch yn y gemau cyfeillgar yn erbyn yr Eidal a’r Iwerddon dros yr haf, ac mae ganddo gêm ddarbi yn rownd wyth olaf Ewrop yn erbyn y Dreigiau ymhen pythefnos.

Beth am y lleill?

Y cwestiwn sydd angen gofyn yw beth mae hyn yn golygu i faswyr eraill y Gleision, a maswyr ifanc Cymreig eraill?

Mae Rhys Patchell bellach yn cael llai o amser ar y cae yng nghrys rhif 10 y Gleision, mae Owen Williams ar goll yn Heol Welford yng Nghaerlŷr, ac mae Matthew Morgan yn brwydro am ddyrchafiad i’r Aviva gyda Bryste.

Mae Steven Shingler eisoes wedi dychwelyd i’r Scarlets o Wyddelod Llundain er mwyn ceisio cryfhau ei gyfle o chwarae i dîm Cymru. Mae pawb wedi anghofio am Jason Tovey, cyn-faswr y Gleision, tra bod maswr arall y Dreigiau Dorian Jones yn perfformio’n dda.

Mae Sam Davies wedi helpu’r Gweilch i sefydlu eu hunain tra bod Biggar gyda’r tîm rhyngwladol. Mae maswr arall y Gleision, Jarrod Evans, yn cicio’r pwyntiau dros dîm dan-20 Cymru ar y foment tra bod Daniel Jones o’r Scarlets hefyd o gwmpas, ac yn rhan o’r genhedlaeth ar gyfer 2019.

Efallai bod Kiwi â gwaed Cymreig yn dod a dŵr i ddannedd yr Undeb a Warren Gatland, ond mae’r dalent yn y crys rhif 10 gyda ni yma’n barod.