“Roeddwn i’n poeni am wynebu Lloegr, ond mi wnawn ni ennill yn hawdd yn erbyn Cymru.” Dyna eiriau cyn-fachwr Iwerddon a’r pyndit Keith Wood cyn i sgidiau styds y Gwyddelod gyffwrdd a chae Stadiwm y Mileniwm y p’nawn ‘ma. Awtch.

Mae o wedi bod yn feirniadol o Warren Gatland yn y gorffennol – yn benodol am ddewis gymaint o Gymry i chwarae yn nhîm y Llewod nôl yn 2013 – ond oes ganddo le i fod mor hyderus y tro yma?

Mae Iwerddon yn anelu am y Gamp Lawn, a Chymru eisiau profi nad ydyn nhw’n llithro nôl i’w hen steil stel o chwarae cyn ennill y gystadleuaeth yn 2013 a chipio’r Gamp Lawn yn 2012.

Fe fydd Iwerddon wedi ennill 11 gêm yn olynol os ydyn nhw’n ennill p’awn ma. Maen nhw’n sicr on a roll ac yn chwarae mor dactegol lân ar hyn o bryd.

Ond does dim amheuaeth y gall y crysau cochion chwarae cystal os nad gwell na rhai o dimau gorau’r byd pan maen nhw’n rhoi eu pennau i lawr – ac maen nhw’n chwarae gartref.

Be bynnag fydd y canlyniad (dwi’n meddwl y bydd Cymru’n ennill 11-9) mae hi’n mynd i fod yn glincar o gêm.

Ffeithiau

* Er bod Cymru wedi colli i Loegr yn eu gem agoriadol, nid yw’r tîm wedi colli dwy gêm gartref yn y Chwe Gwlad ers 2003.

* Fe fydd Iwerddon yn creu hanes os ydyn nhw’n curo gan fod y tîm Gwyddelig cyntaf i ennill 11 gem mewn rhes.

* Dyma’r pedwerydd tro i Iwerddon gychwyn eu hymgyrch Chwe Gwlad gan ennill eu tair gem gyntaf.

* 1983 oedd y tro diwetha’ i Iwerddon fethu a sgorio cais yn Stadiwm y Mileniwm.

* Leigh Halfpenny yw’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r mwyaf o bwyntiau yn y twrnament hyd yn hyn hefo 39 pwynt.

* Fe fydd y to ar agor a dyma’r yw’r tro cyntaf i Gymru, o dan arweinyddiaeth Gatland, gymryd y penderfyniad hwnnw i’w agor.

Cymru v Iwerddon, 2:30, Stadiwm y Mileniwm