Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ailarwyddo’r maswr Aled Thomas yn yr haf, wrth iddyn nhw baratoi am ymadawiad Rhys Priestland.

Dechreuodd Thomas ei yrfa gyda’r Scarlets ddeng mlynedd yn ôl cyn symud i’r Dreigiau a Chymry Llundain, ac yna dychwelyd i Lanelli yn 2011.

Symudodd i Gaerloyw yn 2014, ond ar ôl gweld ei gyfleoedd yn brin yno mae’r clwb o Loegr wedi cytuno i’w ryddhau.

Mae Priestland eisoes wedi cadarnhau y bydd yn gadael y Scarlets ar ddiwedd y tymor i ymuno â Chaerfaddon.

Bydd hynny’n golygu mai Aled Thomas a Stephen Shingler fydd yn cystadlu am y crys rhif 10 ym Mharc y Scarlets tymor nesaf fel mae’n sefyll.

Ychwanegu profiad

Fe chwaraeodd Aled Thomas ei gêm gyntaf dros y Scarlets nôl yn 2004, ac fe oedd y dewis cyntaf yn ystod tymor 2013-14 pan oedd Priestland allan ag anaf i weillen ei ffêr.

Yn ogystal â’i yrfa ranbarthol mae e hefyd yn wyneb cyfarwydd yn nhîm saith bob ochr Cymru.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac y byddai profiad y chwaraewr 30 oed, sydd yn wreiddiol o Bancyfelin yn Sir Gâr, yn hwb mawr i’r garfan.

“Rydyn ni’n falch o groesawu Aled nôl i’r Scarlets,” meddai Wayne Pivac.

“Mae e’n chwaraewr lleol profiadol sydd yn gwybod sut beth yw hi i gynrychioli’r rhanbarth ac fe fydd e’n gefn i Steve [Shingler] yn safle’r maswr.

“Bydd cael rhywun o brofiad ac aeddfedrwydd Aled yn y garfan yn cael effaith bositif a helpu chwaraewyr ifanc fel Josh [Lewis] a Dan [Jones] i ddatblygu eu gêm ymhellach.”