Gavin Henson
Bydd Gavin Henson yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Fryste ddydd Sul yn erbyn Moseley ym Mhorth Ashton.

Bydd y gêm ym Mhencampwriaeth Greene King IPA yn cael ei chwarae yr un diwrnod a gêm Cymru yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin.

Cafodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, sy’n 33 mlwydd oed, ei ryddhau gan Gaerfaddon yn gynharach yr wythnos hon er mwyn iddo allu ymuno â Bryste.

Roedd i fod i adael Caerfaddon ar ddiwedd y tymor hwn a bydd yn chwarae yn safle’r canolwr yn erbyn Moseley.

Mae Bryste ar hyn o bryd yn ail yn y bencampwriaeth, un pwynt y tu ôl i Worcester, ond 18 pwynt o flaen Albanwyr Llundain sy’n y drydedd safle.