Henson yng nghrys Caerfaddon
Bydd Gavin Henson yn ymuno gyda sawl un o gyn-chwaraewyr Cymru ym Mryste ar ddiwedd y tymor.

Mae’r canolwr lliwgar 32 oed ar ei ail dymor gyda Chaerfaddon ar hyn o bryd, ond nid yw’n cael ei le yn y tîm.

Gyda 33 cap dros ei wlad, mae Henson wedi chwarae i lu o glybiau gan gynnwys Toulon a Gleision Caerdydd, ac wedi cael hoe ganol gyrfa i ganolbwyntio ar fod yn seren realiti ar raglenni Strictly Come Dancing a The Batchelor.

Wrth drafod y bennod ddiweddara’ ar ei siwrne, dywedodd Henson ei fod yn awyddus i “chwarae rygbi a chanolbwyntio ar fy ngêm”.

Eisoes yn chwarae i Fryste mae’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Ryan Jones a Dwayne Peel.