Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi esbonio bod geirda o Seland Newydd wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i ddewis Gareth Anscombe yng ngharfan Cymru.

Cafodd Anscombe ei enwi fel un o’r tri maswr yn y garfan heddiw y tu ôl i Dan Biggar a Rhys Priestland, gan olygu bod dim lle i Owen Williams na James Hook.

Dim ond yn yr hydref y symudodd y gŵr o Seland Newydd i ranbarth y Gleision, ond mae’n gymwys i wisgo’r crys coch am fod ei fam wedi ei geni yng Nghymru.

Dywedodd Gatland hefyd fod Adam Jones yn anlwcus i fethu allan ar gael ei enwi yn y garfan, ond y byddai’n galw ar y prop profiadol petai unrhyw anafiadau.

Mae Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ar nos Wener 6 Chwefror, pan fydd Lloegr yn ymweld â Stadiwm y Mileniwm.

Geirda

Dywedodd Warren Gatland ei fod wedi siarad ag un o hyfforddwyr mwyaf adnabyddus y byd rygbi cyn dewis Gareth Anscombe i fod yn ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedd Wayne Smith yn hyfforddi Anscombe yng nghlwb y Chiefs yn Seland Newydd, ac fe fu hefyd yn gweithio gyda thîm yr All Blacks yn ystod Cwpan y Byd 2011.

“Ges i sgwrs dda gyda Wayne Smith amdano fe, ac roedd Wayne yn ei ganmol i’r cymylau,” meddai Gatland. “Roedd e’n credu ei fod e’n hawdd i’w hyfforddi, ei fod eisiau dysgu.

“Pan mae rhywun fel Wayne Smith yn gwneud argymhelliad fel ‘na, mae’n rhaid i chi dalu sylw.”

Cyfaddefodd hyfforddwr Cymru ei fod wedi llygadu’r maswr ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru ers sbel.

“Nes i gyfarfod Gareth yma [yng Nghymru] gyda’i dad ychydig dros 12 mis yn ôl. Fe eisteddon ni lawr a chael sgwrs,” meddai Gatland.

“Gan fod ei fam o Gaerdydd roedden ni’n gwybod ei fod e’n opsiwn i Gymru, ac roedd y drafodaeth yn un cyffredinol.

“Doedd dim pwysau gennym ni o ran datgan ei hun [i chwarae dros Gymru].”

Adam yn anlwcus

Pedwar chwaraewr yn y garfan o 34 sydd heb ennill capiau dros Gymru eto – Anscombe, y canolwr Tyler Morgan, y prop Rob Evans a’r bachwr Kristian Dacey.

Does dim lle felly i’r prop Adam Jones, sydd wedi ennill 95 o gapiau dros Gymru ond heb chwarae i’r tîm cenedlaethol ers haf y llynedd.

Ac fe gyfaddefodd Gatland ei fod wedi meddwl yn hir cyn dewis ei garfan.

“Roedd e’n drafodaeth hir am adael Adam allan achos ni’n gwybod ei fod e wedi bod yn gweithio’n galed,” meddai Gatland.

“Ni’n gwybod bod gyda fe brofiad, ac os oes anafiadau fe fyddwn ni’n ei alw fe mewn. Mae’n bwysig i ni ddatblygu dyfnder yn y safle yna achos does gennym ni ddim llawer.

“Gydag Adam ar hyn o bryd ni ddim yn ei weld e fel chwaraewr sydd yn dod oddi ar y fainc, ni’n gweld e’n dechrau yn y safle yna os yw e’n dod mewn i’r garfan.”