Tom Habberfield fydd yn gapten ar y Gweilch pan fyddan nhw’n herio Saracens ar gae’r Gnoll nos Wener yng Nghwpan LV.

Y maswr Sam Davies yw’r unig chwaraewr sydd yn cadw’i le yn y tîm o’r pymtheg a enillodd 26-11 yn erbyn Connacht y penwythnos diwethaf.

Bydd Aled Jenkins, Gareth Thomas, Rory Thornton ac Ifereimi Boladau yn chwarae’u gemau cyntaf dros y Gweilch, gyda Jordan Collier yn dechrau am y tro cyntaf.

Fe allai Tommy Spinks ac Ashley Evans hefyd wneud eu hymddangosiad cyntaf dros y rhanbarth os ydyn nhw’n dod oddi ar y fainc.

Mae canolwr Cymru Ashley Beck yn dychwelyd i’r tîm ar ôl anaf, gan ymuno â Jenkins yng nghanol cae, ac mae’r asgellwr Hanno Dirksen nôl i gymryd lle ar y fainc.

Ac mae prif hyfforddwr y Gweilch Steve Tandy’n credu y bydd y cefnogwyr yn mwynhau gweld y tîm yn ôl ar faes y Gnoll ym Mhontypridd, ble bu’r rhanbarth yn chwarae cyn symud i Stadiwm Liberty yn 2005.

“Mae’r dewis yn gyffrous, un fydd yn cyffroi’r cefnogwyr gobeithio,” meddai Tandy.

“Bydd mynd yn ôl i’r Gnoll hefyd yn ychwanegu ychydig o sbeis at y gêm gan ei fod yn rhan fawr o hanes y Gweilch er gwaethaf y ffaith mai dim ond am gwpl o dymhorau roedden nhw yno.

“Rwy’n siŵr y bydd ein cefnogwyr ni’n mwynhau bod yn ôl yno am y noson ac yn helpu i wneud y noson yn un gofiadwy.”

Tîm y Gweilch: Richard Fussell, Dafydd Howells, Ashley Beck, Aled Jenkins, Aisea Natoga, Sam Davies, Tom Habberfield (capt); Gareth Thomas, Scott Otten, Daniel Suter, Rory Thornton, Rhodri Hughes, Jordan Collier, Lloyd Evans, Ifereimi Boladau

Eilyddion: Matthew Dwyer, Marc Thomas, Nicky Thomas, Adam Beard, Tommy Spinks, Tito Tebaldi, Hanno Dirksen, Ashley Evans