Hen Gwpan Heineken Ewrop
Bydd cefnogwyr brwd y Scarlets a’r Gweilch yn gallu gwylio hynt a helynt eu gemau gyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop, ar S4C heno.

Yn ogystal bydd uchafbwyntiau’r ail gystadleuaeth, Cwpan Her Rygbi Ewrop, sy’n cynnwys  y Gleision a’r Dreigiau yn cael eu dangos.

S4C ydi’r darlledwr daearol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddangos uchafbwyntiau estynedig o’r cystadlaethau Ewropeaidd newydd i wylwyr. Mae hyn yn dilyn cytundeb gyda threfnwyr y gystadleuaeth EPRC a’r partneriaid darlledu BT Sport a Sky Sports.

Hapus iawn

Meddai Llion Iwan, Golygydd Cynnwys Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C: “Rydym wrth ein boddau. Mae’r ffaith ein bod yn gallu sicrhau hawliau o’r fath mewn marchnad mor gystadleuol yn adlewyrchu ein safle fel darlledwr chwaraeon.

“Mae’n ychwanegiad gwerthfawr i’n portffolio rygbi ar deledu ac ar y we ar bob lefel.”

Mae’r rhaglenni’n dechrau heno am 9.50yh yn y sioe Rygbi: Cwpan Pencampwyr Ewrop.