Mae’r Scarlets wedi cadarnhau heddiw y bydd yr wythwr Chris Hala’ufia yn ymuno â Chymry Llundain ar fenthyg am bythefnos.

Fe ymunodd Hala’ufia â’r Scarlets yn ystod yr haf ond nid yw wedi chwarae dros y rhanbarth.

Fe wnaeth y chwaraewr o Tonga adael y Gwyddelod yn Llundain ar ddiwedd tymor 2013-14 ar ôl chwarae iddyn nhw am chwe thymor.  Mae’r blaenwr 35 oed wedi chwarae i’r Harlequins ac wedi cynrychioli Tonga 24 gwaith gan dirio pum cais.

‘‘Mae Cymry Llundain mewn sefyllfa i roi iddo amser chwarae ar y cae.  Fe wnaeth y chwaraewr ofyn am y cyfle ac mae yna gytundeb rhwng y tri parti,’’ eglurodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.