Illtud Dafydd
Wedi i dri rownd o rygbi’r Pro12 basio, a rhanbarthau Cymru’n ennill pump allan o’u 12 gêm agoriadol, mae sawl cefnogwr a dilynwr rygbi Cymru yn dechrau poeni.

Yn enwedig gan weld bod tair o’r pum buddugoliaeth wedi dod gan y Gweilch.

Ar ddechrau’r tymor soniodd nifer am newid yn nhrefn y rhanbarthau, gyda’r Gleision yn edrych yn gryf ar bapur ar ôl arwyddo Adam Jones a Manoa Vosawi, a Lyn Jones yn dod a sawl chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ôl o’u hanturiaethau tramor i’r Dreigiau.

Mae’r gobaith y nawr i’w weld wedi diflannu gan sawl un, ac nid ydym hyd yn oed wedi cyrraedd mis Hydref eto!

Her i’r Dreigiau a’r Gleision

Mae’r Dreigiau wedi wynebu tair her fawr – trip i Galway i herio Connacht Pat Lam a Mils Muliaina, ac yna croesawu’r Gweilch a Glasgow i Rodney Parade. Mae Treviso yn teithio i Gasnewydd pnawn Sul a dw i’n disgwyl i’r ddau dîm chwarae i ennill – nid yw’r Eidalwyr wedi ennill eleni chwaith!

Nid yw tymor y Gleision yn arafu i lawr gyda thrip i’r RDS i herio Leinster. Mae’r ddau dîm ond wedi ennill unwaith eleni, ac fe gollodd Leinster i Connacht nos Wener ddiwethaf.

Rwy’n poeni braidd am ddynion Mark Hammett, yn enwedig am y maswr Rhys Patchell. Mae’n chwaraewr llawn talent, a nos Wener ddiwethaf roedd yn gwisgo’r crys pymtheg, rhywbeth efallai y bydd rhaid iddo arfer â gwneud pan fydd y Cymro o Auckland Gareth Anscombe yn cyrraedd fis nesa’.

Mae ein chwaraewyr ifanc gorau angen chwarae’n gyson yn eu safleoedd naturiol er mwyn datblygu, nid eistedd ar y fainc tra bod chwaraewyr tramor yn cymryd eu safle.

Gwell i’r Gweilch a’r Scarlets

Mae’r Gweilch a’r Scarlets wedi gwneud dechreuadau positif dros ben i’w tymhorau. Er bod bois y Liberty wedi colli sawl un o hoelion wyth eu pac mae unigolion fel Nicky Smith, Tyler Ardron ac Eli Walker wedi sefyll allan yn gyson.

Draw ym Mharc y Scarlets mae Wayne Pivac i’w weld yn parhau gyda system chwarae Simon Easterby ac mae ychwanegiad Rory Pitman yn ei reng-ôl i’w weld yn gweithio.

Mae’r Scarlets wedi cael problem yn y crys rhif wyth ers i David Lyons adael yn 2011, ond mae’r wythwr o Benybont yn setlo mewn yn hawdd yn Nhre’r Sosban.

Mae dau ranbarth yn teithio i ffwrdd dros y Sul, gyda’r Scarlets yn herio Caeredin yn Murrayfield a’r Gweilch yn hedfan i Limerig i herio Munster.

Y rhagolygon?

Dwi’n rhagweld dwy fuddugoliaeth i ranbarthau Cymru’r penwythnos hwn, y Dreigiau o ddeg pwynt ar brynhawn Sul a’r Scarlets o drwch blewyn yng Nghaeredin.

Dim ond tair gêm mae ein rhanbarthau wedi chwarae cyn belled, felly beth am aros nes mis Tachwedd cyn i ni allu codi braw a phoeni o ddifrif.