Rhys Jones sy’n pendroni syniad diweddaraf Warren Gatland …

Tra bod y byd pêl-droed wedi datgan yn glir eu bod yn erbyn chwarae yng ngwres llethol haf Qatar yng Nghwpan y Byd 2022, mae Warren Gatland am dreulio amser yno gyda’r garfan rygbi cenedlaethol yn paratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Mae Lloegr wedi penderfynu mai yn yr Unol Daleithiau y byddant yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth, ond mae Gatland a’i dîm hyfforddi wedi dewis Qatar a’r Swistir fel y mannau delfrydol i sicrhau bod y garfan yn y cyflwr corfforol a meddyliol gorau ar gyfer y gystadleuaeth.

Rhaid gofyn a yw hyn yn gam doeth, o gofio y gall y tymheredd godi i tua 50°C sy’n 122°F yn ystod mis Gorffennaf pan fydd y garfan genedlaethol yno.

Newid amgylchedd

Ar ôl bod yn ymarfer yng Ngwlad Pwyl ar sawl achlysur yn y gorffennol mae’n debyg mai teimlad y tîm hyfforddi yw bod angen her newydd mewn amgylchiadau hollol wahanol ar y chwaraewyr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon.

Wrth dderbyn bod angen her newydd ar y chwaraewyr, rhaid ystyried yn ddwys a yw ymarfer yn galed yn y fath amgylchiadau anodd yn ddiogel iddynt.  Beth am y cwestiwn iechyd a diogelwch, ac a yw Gatland yn gofyn gormod gan y chwaraewyr?

Yn ogystal â threulio amser yn Qatar bydd y garfan yn ymarfer yn y Swistir am ryw 12-14 diwrnod fel rhan o gynllun Gatland i sicrhau bod y chwaraewyr yn barod ar gyfer dechrau’r gystadleuaeth ym mis Medi.

Yn y Swistir byddant yn ymarfer ar y tir isel ac yna yn teithio mewn ‘cable car’ i’r tir uchel i gysgu. Barn y tîm hyfforddi yw y bydd ymarfer yn y tymheredd uchel yn y gwledydd hyn yn rhoi her newydd iddynt o safbwynt seicolegol.

A yw’r gêm wedi mynd yn rhy dechnegol bellach?  Wrth gydnabod bod yn rhaid i’r chwaraewyr fod yn arbennig o ffit yn y gêm fodern tybed a ydym – gyda’r pwyslais cyson ar ffitrwydd yn aberthu – yn esgeuluso’r sgiliau sylfaenol ac yn amddifadu’r chwaraewyr o’r hawl i fynegi eu hunain yn naturiol ar y cae?

Dysgu gwersi’r Llewod?

Mae’n debyg mai gobaith Gatland a’i dîm hyfforddi yw y bydd ymarfer yn y fath amgylchiadau anodd yn paratoi’r garfan yn drylwyr ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan y Byd, a hefyd y gemau paratoi yn erbyn yr Iwerddon ym mis Awst ac yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd ar 5 Medi.

Tybed a wnaeth Gatland benderfynu ymarfer yn y gwledydd hyn yn dilyn profiad y Llewod yn ymarfer yng ngwres Hong Kong cyn eu taith lwyddiannus i Awstralia’r llynedd?

Mae’n werth nodi mai Gatland oedd Prif Hyfforddwr y daith ac Adam Beard, pennaeth perfformiad ffitrwydd Cymru, oedd yng ngofal cryfder a ffitrwydd y garfan a deithiodd i Awstralia.

Mae’n deg gofyn a allai Gatland a’i dîm fod wedi dewis lleoedd i ymarfer lle nad yw’r tymheredd mor beryglus o uchel.

Hefyd byddai’n ddiddorol cael gwybod beth yw cost y cyfan.