Mae’r Cymry Llundain wedi arwyddo’r mewnwr profiadol o Seland Newydd, Piri Weepu.

Mae’r chwaraewr 30 oed wedi ymddangos 71 gwaith i Seland Newydd ac oedd yn allweddol i ymgyrch y crysau duon wrth iddynt gipio’r Cwpan y Byd yn 2011.

‘‘Mae’n newyddion cyffrous ar gyfer y clwb.  Nid yn unig ar gyfer cryfhau’r garfan ond gall y chwaraewyr elwa llawer wrth brofiad Piri ar y cae,’’ meddai prif hyfforddwr Cymry Llundain, Justin Burnell wrth Adran Chwaraeon y BBC.

Yn ogystal â Weepu bydd y prop o’r Ariannin Pablo Henn, y maswr Olly Barkley a’r blaenasgellwr o Awstralia Lachlan McCaffey yn ymuno â’r Cymry Llundain ar gyfer y tymor nesaf.

‘‘Rwy’n ddiolchgar ac yn hynod o gyffrous am y cyfle i ymuno â’r Cymry Llundain ac yn edrych ymlaen at yr her i chwarae yng nghynghrair Aviva y tymor nesaf,’’ meddai Weepu wrth Adran Chwaraeon y BBC.